Barnwyr 3:24-30 beibl.net 2015 (BNET)

24. Pan ddaeth gweision y brenin yn ôl a darganfod fod y drysau wedi eu cloi, roedden nhw'n meddwl, “Mae'n rhaid ei fod e yn y tŷ bach.”

25. Ond ar ôl aros ac aros am amser hir, dyma nhw'n dechrau teimlo'n anesmwyth am ei fod e'n dal heb agor y drysau. Felly dyma nhw'n nôl allwedd ac agor y drysau. A dyna lle roedd eu meistr, yn gorwedd yn farw ar lawr!

26. Erbyn hynny roedd Ehwd wedi hen ddianc. Roedd wedi mynd heibio'r delwau cerrig, ac ar y ffordd i Seira.

27. Pan gyrhaeddodd Seira dyma fe'n chwythu'r corn hwrdd ar fryniau Effraim, i alw byddin at ei gilydd. A dyma ddynion Effraim yn mynd yn ôl i lawr gydag e o'r bryniau. Ehwd oedd yn eu harwain.

28. “Dewch!” meddai, “Mae'r ARGLWYDD yn mynd i roi buddugoliaeth i chi yn erbyn eich gelynion, y Moabiaid!”Felly aethon nhw ar ei ôl i lawr i ddyffryn Iorddonen, a dal y rhydau lle mae pobl yn croesi drosodd i Moab. Doedden nhw ddim yn gadael i unrhyw un groesi.

29. Y diwrnod hwnnw roedden nhw wedi lladd tua deg mil o filwyr gorau Moab – dynion cryfion i gyd. Wnaeth dim un ohonyn nhw ddianc.

30. Cafodd byddin Moab eu trechu'n llwyr y diwrnod hwnnw, ac roedd heddwch yn y wlad am wyth deg mlynedd.

Barnwyr 3