Barnwyr 3:17-26 beibl.net 2015 (BNET)

17. Yna dyma fe'n mynd â'r arian trethi i Eglon. Roedd Eglon yn ddyn tew iawn.

18. Ar ôl cyflwyno'r trethi i'r brenin, dyma Ehwd a'r dynion oedd wedi cario'r arian yn troi am adre.

19. Ond pan ddaethon nhw at y delwau cerrig yn Gilgal, dyma Ehwd yn troi yn ei ôl. A dyma fe'n dweud wrth y brenin Eglon, “Mae gen i neges gyfrinachol i'w rhannu gyda chi, eich mawrhydi.”“Ust! Aros eiliad,” meddai Eglon. Yna dyma fe'n anfon ei weision i gyd allan.

20. Felly roedd yn eistedd ar ei ben ei hun yn yr ystafell uchaf – ystafell agored braf. Dyma Ehwd yn mynd draw ato, a dweud, “Mae gen i neges i chi gan Dduw!”Pan gododd y brenin ar ei draed,

21. dyma Ehwd yn tynnu ei gleddyf allan gyda'i law chwith, a'i wthio i stumog Eglon.

22. Aeth mor ddwfn nes i'r carn fynd ar ôl y llafn, a diflannu yn ei floneg. Allai Ehwd ddim tynnu'r cleddyf allan.

23. Yna dyma fe'n cloi drysau'r ystafell, a dianc trwy ddringo i lawr y twll carthion o'r tŷ bach.

24. Pan ddaeth gweision y brenin yn ôl a darganfod fod y drysau wedi eu cloi, roedden nhw'n meddwl, “Mae'n rhaid ei fod e yn y tŷ bach.”

25. Ond ar ôl aros ac aros am amser hir, dyma nhw'n dechrau teimlo'n anesmwyth am ei fod e'n dal heb agor y drysau. Felly dyma nhw'n nôl allwedd ac agor y drysau. A dyna lle roedd eu meistr, yn gorwedd yn farw ar lawr!

26. Erbyn hynny roedd Ehwd wedi hen ddianc. Roedd wedi mynd heibio'r delwau cerrig, ac ar y ffordd i Seira.

Barnwyr 3