7. “Sut allwn ni ddod o hyd i wragedd i'r rhai ohonyn nhw sy'n dal yn fyw? Dŷn ni wedi addo ar lw, o flaen yr ARGLWYDD, i beidio rhoi ein merched ni yn wragedd iddyn nhw.”
8. Felly dyma nhw'n gofyn, “Oes yna bobl o lwythau Israel wnaeth ddim dod i gyfarfod yr ARGLWYDD yn Mitspa?”A dyma nhw'n darganfod fod neb o Jabesh yn Gilead wedi dod i'r cyfarfod.
9. Pan oedden nhw wedi cyfri'r bobl, doedd neb o Jabesh yn Gilead yno.
10. Felly dyma nhw'n anfon un deg dau o filoedd o filwyr i ymosod ar Jabesh yn Gilead. Y gorchymyn oedd i ladd pawb, gan gynnwys gwragedd a phlant.
11. “Lladdwch y dynion a'r bechgyn i gyd, a phob gwraig sydd ddim yn wyryf. Yr unig rai i'w cadw'n fyw ydy'r merched ifanc sy'n wyryfon.” A dyna wnaethon nhw.
12. Yn Jabesh yn Gilead dyma nhw'n dod o hyd i bedwar cant o ferched ifanc oedd yn wyryfon – merched oedd erioed wedi cael rhyw gyda dyn. A dyma nhw'n mynd â nhw yn ôl i'r gwersyll yn Seilo yn Canaan.
13. Yna dyma bobl Israel yn cynnig telerau heddwch i ddynion Benjamin oedd wrth Graig Rimmon.
14. Felly dyma ddynion Benjamin yn dod yn ôl, a dyma bobl Israel yn rhoi'r merched o Jabesh yn Gilead oedd wedi eu harbed iddyn nhw. Ond doedd dim digon o ferched iddyn nhw i gyd.
15. Roedd y bobl yn wirioneddol sori am beth oedd wedi digwydd i lwyth Benjamin – roedd yr ARGLWYDD wedi gadael bwlch yn Israel.
16. A dyma'r arweinwyr yn gofyn, “Sut ddown ni o hyd i wragedd i'r rhai sydd ar ôl? Mae merched llwyth Benjamin i gyd wedi eu lladd.
17. Mae'n rhaid cadw'r llwyth i fynd. Allwn ni ddim colli llwyth cyfan o Israel.