Barnwyr 21:15-24 beibl.net 2015 (BNET)

15. Roedd y bobl yn wirioneddol sori am beth oedd wedi digwydd i lwyth Benjamin – roedd yr ARGLWYDD wedi gadael bwlch yn Israel.

16. A dyma'r arweinwyr yn gofyn, “Sut ddown ni o hyd i wragedd i'r rhai sydd ar ôl? Mae merched llwyth Benjamin i gyd wedi eu lladd.

17. Mae'n rhaid cadw'r llwyth i fynd. Allwn ni ddim colli llwyth cyfan o Israel.

18. Ond allwn ni ddim rhoi ein merched ni yn wragedd iddyn nhw chwaith.” (Roedd pobl Israel wedi tyngu llw a chyhoeddi melltith ar unrhyw un fyddai'n rhoi gwraig i ddyn o lwyth Benjamin.)

19. “Mae yna Ŵyl i'r ARGLWYDD yn cael ei chynnal yn Seilo bob blwyddyn. Mae'r Ŵyl yn cael ei chynnal i'r gogledd o Bethel ac i'r de o Lebona, ac i'r dwyrain o'r ffordd fawr sy'n rhedeg o Bethel i Sichem.”

20. Felly dyma nhw'n dweud wrth ddynion Benjamin, “Ewch yno i guddio yn y gwinllannoedd.

21. Pan fydd merched Seilo yn dod allan i ddawnsio, gallwch i gyd neidio allan a gafael mewn merch ac wedyn mynd â nhw gyda chi adre i dir Benjamin.

22. Pan fydd tadau a brodyr y merched yn dod aton ni i gwyno byddwn ni'n dweud wrthyn nhw, ‘Plîs gadwch lonydd iddyn nhw. Wnaethon ni ddim llwyddo i gael gwraig i bob un ohonyn nhw drwy ymosod ar Jabesh yn Gilead. A wnaethoch chi ddim rhoi eich merched yn wirfoddol iddyn nhw, felly dych chi ddim yn euog o dorri'ch llw.’”

23. A dyna wnaeth dynion Benjamin. Dyma nhw'n cipio dau gant o'r merched oedd yn dawnsio, a'u cymryd nhw'n wragedd iddyn nhw eu hunain. Wedyn dyma nhw'n mynd yn ôl adre i'w tiroedd eu hunain, ailadeiladu'r trefi, a setlo i lawr unwaith eto.

24. A dyma weddill pobl Israel hefyd yn mynd yn ôl adre i'w tiroedd nhw.

Barnwyr 21