1. Yn Mitspa roedd pobl Israel wedi tyngu llw, “Fydd dim un ohonon ni yn gadael i'w ferch briodi dyn o lwyth Benjamin.”
2. Felly dyma'r bobl yn mynd i Bethel ac eistedd o flaen yr ARGLWYDD yn beichio crïo'n uchel.
3. “O ARGLWYDD, Duw Israel, pam mae hyn wedi digwydd? Mae un o lwythau Israel wedi diflannu heddiw!”
4. Yna dyma'r bobl yn codi'n gynnar y bore wedyn ac yn adeiladu allor. A dyma nhw'n cyflwyno aberthau i'w llosgi ac offrymau i gydnabod daioni'r ARGLWYDD.
5. A dyma nhw'n gofyn, “Oes yna bobl o lwythau Israel wnaeth ddim dod i gyfarfod yr ARGLWYDD yn Mitspa? Roedden ni wedi addo ar lw y byddai'n rhaid i unrhyw un wnaeth ddim dod i gyfarfod yr ARGLWYDD gael ei ladd.”
6. Roedden nhw'n wirioneddol sori am beth oedd wedi digwydd i lwyth Benjamin. “Heddiw, mae un o'r llwythau wedi ei dorri i ffwrdd o Israel!” medden nhw.
7. “Sut allwn ni ddod o hyd i wragedd i'r rhai ohonyn nhw sy'n dal yn fyw? Dŷn ni wedi addo ar lw, o flaen yr ARGLWYDD, i beidio rhoi ein merched ni yn wragedd iddyn nhw.”
8. Felly dyma nhw'n gofyn, “Oes yna bobl o lwythau Israel wnaeth ddim dod i gyfarfod yr ARGLWYDD yn Mitspa?”A dyma nhw'n darganfod fod neb o Jabesh yn Gilead wedi dod i'r cyfarfod.
9. Pan oedden nhw wedi cyfri'r bobl, doedd neb o Jabesh yn Gilead yno.
10. Felly dyma nhw'n anfon un deg dau o filoedd o filwyr i ymosod ar Jabesh yn Gilead. Y gorchymyn oedd i ladd pawb, gan gynnwys gwragedd a phlant.
11. “Lladdwch y dynion a'r bechgyn i gyd, a phob gwraig sydd ddim yn wyryf. Yr unig rai i'w cadw'n fyw ydy'r merched ifanc sy'n wyryfon.” A dyna wnaethon nhw.
12. Yn Jabesh yn Gilead dyma nhw'n dod o hyd i bedwar cant o ferched ifanc oedd yn wyryfon – merched oedd erioed wedi cael rhyw gyda dyn. A dyma nhw'n mynd â nhw yn ôl i'r gwersyll yn Seilo yn Canaan.
13. Yna dyma bobl Israel yn cynnig telerau heddwch i ddynion Benjamin oedd wrth Graig Rimmon.