Barnwyr 20:8-21 beibl.net 2015 (BNET)

8. A dyma nhw'n cytuno'n unfrydol, “Does neb ohonon ni am fynd adre – neb o gwbl –

9. nes byddwn ni wedi delio gyda phobl Gibea. Rhaid i ni ymosod ar y dre. Gwnawn ni dynnu coelbren i benderfynu pa lwyth sydd i arwain yr ymosodiad.

10. Bydd degfed ran o ddynion pob llwyth yn gyfrifol am nôl bwyd i'r milwyr. Pan fydd y fyddin yn cyrraedd Gibea byddan nhw'n eu cosbi nhw am wneud peth mor erchyll yn Israel.”

11. Felly dyma ddynion Israel i gyd yn mynd gyda'i gilydd i ymosod ar dref Gibea.

12. Dyma nhw'n anfon negeswyr at lwyth Benjamin, i ofyn, “Sut allech chi fod wedi gwneud peth mor ofnadwy?

13. Anfonwch y rapsgaliwns yn Gibea sydd wedi gwneud hyn aton ni i gael eu dienyddio. Rhaid cael gwared â'r drwg yma o Israel.”Ond doedd pobl llwyth Benjamin ddim yn fodlon cydweithredu.

14. Yn lle hynny, dyma nhw'n dod o'u trefi i Gibea, a chasglu yno i fynd i ryfel yn erbyn gweddill Israel.

15. Roedd dau ddeg chwech mil o filwyr arfog o lwyth Benjamin wedi ymuno gyda'r saith mil o filwyr profiadol oedd yn Gibea ei hun.

16. Roedd y fyddin yn cynnwys saith gant o ddynion llaw chwith oedd yn gallu taro targed trwch blewyn gyda carreg o ffon dafl.

17. Roedd gan weddill Israel bedwar can mil o filwyr arfog profiadol.

18. Cyn y frwydr roedden nhw wedi bod yn Bethel i ofyn i Dduw, “Pwy sydd i arwain y frwydr yn erbyn llwyth Benjamin?”A dyma'r ARGLWYDD yn ateb, “Llwyth Jwda sydd i arwain.”

19. Yn gynnar y bore wedyn, dyma byddin Israel yn paratoi i ymosod ar Gibea.

20. Dyma nhw'n mynd allan i ymladd yn erbyn llwyth Benjamin, a sefyll mewn trefn yn barod i ymosod ar Gibea.

21. Ond dyma filwyr llwyth Benjamin yn dod allan o Gibea, a lladd dau ddeg dau mil o filwyr Israel yn y frwydr y diwrnod hwnnw.

Barnwyr 20