Barnwyr 20:6-16 beibl.net 2015 (BNET)

6. Roedd yn beth erchyll i bobl Israel ei wneud. Felly dyma fi'n cymryd ei chorff, ei dorri'n ddarnau, ac anfon y darnau i bob rhan o dir Israel.

7. Rhaid i chi, bobl Israel, benderfynu beth sydd i'w wneud!”

8. A dyma nhw'n cytuno'n unfrydol, “Does neb ohonon ni am fynd adre – neb o gwbl –

9. nes byddwn ni wedi delio gyda phobl Gibea. Rhaid i ni ymosod ar y dre. Gwnawn ni dynnu coelbren i benderfynu pa lwyth sydd i arwain yr ymosodiad.

10. Bydd degfed ran o ddynion pob llwyth yn gyfrifol am nôl bwyd i'r milwyr. Pan fydd y fyddin yn cyrraedd Gibea byddan nhw'n eu cosbi nhw am wneud peth mor erchyll yn Israel.”

11. Felly dyma ddynion Israel i gyd yn mynd gyda'i gilydd i ymosod ar dref Gibea.

12. Dyma nhw'n anfon negeswyr at lwyth Benjamin, i ofyn, “Sut allech chi fod wedi gwneud peth mor ofnadwy?

13. Anfonwch y rapsgaliwns yn Gibea sydd wedi gwneud hyn aton ni i gael eu dienyddio. Rhaid cael gwared â'r drwg yma o Israel.”Ond doedd pobl llwyth Benjamin ddim yn fodlon cydweithredu.

14. Yn lle hynny, dyma nhw'n dod o'u trefi i Gibea, a chasglu yno i fynd i ryfel yn erbyn gweddill Israel.

15. Roedd dau ddeg chwech mil o filwyr arfog o lwyth Benjamin wedi ymuno gyda'r saith mil o filwyr profiadol oedd yn Gibea ei hun.

16. Roedd y fyddin yn cynnwys saith gant o ddynion llaw chwith oedd yn gallu taro targed trwch blewyn gyda carreg o ffon dafl.

Barnwyr 20