33. Tra roedd byddin Israel i gyd yn mynd i Baal-tamar i ailgasglu at ei gilydd, dyma'r milwyr oedd yn cuddio i'r gorllewin o Gibea yn dod allan
34. ac yn ymosod ar y dref – deg mil o filwyr profiadol i gyd. Roedd y brwydro yn filain, a doedd gan filwyr Benjamin ddim syniad eu bod nhw ar fin cael crasfa.
35. Dyma'r ARGLWYDD yn taro byddin Benjamin i lawr o flaen milwyr Israel. Cafodd dau ddeg pum mil a chant o filwyr Benjamin eu lladd.
36. Roedd byddin Benjamin yn gweld ei bod ar ben arnyn nhw!Roedd byddin Israel wedi ffoi o flaen milwyr llwyth Benjamin, gan wybod fod ganddyn nhw ddynion yn cuddio ac yn barod i ymosod ar Gibea.
37. Ac roedd y dynion hynny wedi rhuthro i ymosod ar Gibea, a lladd pawb oedd yn byw yno.
38. Roedden nhw wedi trefnu i roi arwydd i weddill y fyddin eu bod nhw wedi llwyddo. Bydden nhw'n cynnau tân a gwneud i golofn o fwg godi o'r dref.
39. A dyna pryd fyddai byddin Israel yn troi a dechrau gwrthymosod.Roedd milwyr Benjamin eisoes wedi lladd rhyw dri deg o filwyr Israel ac yn meddwl eu bod nhw'n ennill y frwydr fel o'r blaen.
40. Ond yna dyma nhw'n gweld colofn o fwg yn codi o'r dref. Roedd y dref i gyd ar dân, a mwg yn codi'n uchel i'r awyr.
41. Pan drodd byddin Israel i ymladd, dyma filwyr llwyth Benjamin yn panicio – roedden nhw'n gweld ei bod hi ar ben arnyn nhw.
42. Dyma nhw'n ffoi o flaen byddin Israel, ar hyd y ffordd i'r anialwch. Ond roedden nhw'n methu dianc. Roedd milwyr Israel yn eu taro nhw o bob cyfeiriad.
43. Roedden nhw wedi amgylchynu byddin Benjamin a wnaethon nhw ddim stopio mynd ar eu holau. Roedden nhw'n eu taro nhw i lawr yr holl ffordd i'r dwyrain o Geba.
44. Cafodd un deg wyth o filoedd, o filwyr gorau llwyth Benjamin, eu lladd.
45. Dyma'r gweddill yn dianc i'r anialwch, i gyfeiriad Craig Rimmon. Ond lladdodd byddin Israel bum mil ohonyn nhw ar y ffordd. Dyma nhw'n aros yn dynn ar eu sodlau yr holl ffordd i Gidom, a lladd dwy fil arall.
46. Felly cafodd dau ddeg pum mil o filwyr llwyth Benjamin eu lladd y diwrnod hwnnw – i gyd yn filwyr profiadol.
47. Chwe chant oedd wedi llwyddo i ddianc i Graig Rimmon, a buon nhw yno am bedwar mis.
48. Dyma fyddin Israel yn troi yn ôl a mynd drwy drefi Benjamin i gyd, yn lladd popeth byw, pobl ac anifeiliaid. Yna llosgi'r trefi'n llwyr, bob un.