Barnwyr 20:32-41 beibl.net 2015 (BNET)

32. Roedd byddin Benjamin yn meddwl eu bod nhw'n eu curo nhw fel o'r blaen. Ond tacteg Israel oedd ffoi o'u blaenau nhw er mwyn eu harwain nhw i ffwrdd o dref Gibea i'r priffyrdd.

33. Tra roedd byddin Israel i gyd yn mynd i Baal-tamar i ailgasglu at ei gilydd, dyma'r milwyr oedd yn cuddio i'r gorllewin o Gibea yn dod allan

34. ac yn ymosod ar y dref – deg mil o filwyr profiadol i gyd. Roedd y brwydro yn filain, a doedd gan filwyr Benjamin ddim syniad eu bod nhw ar fin cael crasfa.

35. Dyma'r ARGLWYDD yn taro byddin Benjamin i lawr o flaen milwyr Israel. Cafodd dau ddeg pum mil a chant o filwyr Benjamin eu lladd.

36. Roedd byddin Benjamin yn gweld ei bod ar ben arnyn nhw!Roedd byddin Israel wedi ffoi o flaen milwyr llwyth Benjamin, gan wybod fod ganddyn nhw ddynion yn cuddio ac yn barod i ymosod ar Gibea.

37. Ac roedd y dynion hynny wedi rhuthro i ymosod ar Gibea, a lladd pawb oedd yn byw yno.

38. Roedden nhw wedi trefnu i roi arwydd i weddill y fyddin eu bod nhw wedi llwyddo. Bydden nhw'n cynnau tân a gwneud i golofn o fwg godi o'r dref.

39. A dyna pryd fyddai byddin Israel yn troi a dechrau gwrthymosod.Roedd milwyr Benjamin eisoes wedi lladd rhyw dri deg o filwyr Israel ac yn meddwl eu bod nhw'n ennill y frwydr fel o'r blaen.

40. Ond yna dyma nhw'n gweld colofn o fwg yn codi o'r dref. Roedd y dref i gyd ar dân, a mwg yn codi'n uchel i'r awyr.

41. Pan drodd byddin Israel i ymladd, dyma filwyr llwyth Benjamin yn panicio – roedden nhw'n gweld ei bod hi ar ben arnyn nhw.

Barnwyr 20