Barnwyr 20:1-10 beibl.net 2015 (BNET)

1. Dyma bobl Israel yn dod at ei gilydd yn un dyrfa fawr o flaen yr ARGLWYDD yn Mitspa. Roedden nhw wedi dod o bobman – o Dan yn y gogledd i Beersheba yn y de, ac o wlad Gilead i'r dwyrain o Afon Iorddonen.

2. A dyma arweinwyr llwythau Israel yn cymryd eu lle – roedd pedwar can mil o filwyr traed wedi eu harfogi yno i gyd.

3. Dyma llwyth Benjamin yn clywed fod gweddill pobl Israel wedi dod at ei gilydd yn Mitspa. A dyma bobl Israel yn gofyn, “Sut allai peth mor ofnadwy fod wedi digwydd?”

4. Dyma'r dyn o lwyth Lefi (gŵr y wraig oedd wedi cael ei llofruddio) yn dweud, “Roeddwn i a'm partner wedi mynd i Gibea, sydd ar dir Benjamin, i aros dros nos.

5. A dyma arweinwyr Gibea yn dod ar fy ôl i, ac yn amgylchynu'r tŷ lle roedden ni'n aros. Roedden nhw am fy lladd i. Ond yn lle hynny dyma nhw'n treisio a cham-drin fy mhartner i nes buodd hi farw.

6. Roedd yn beth erchyll i bobl Israel ei wneud. Felly dyma fi'n cymryd ei chorff, ei dorri'n ddarnau, ac anfon y darnau i bob rhan o dir Israel.

7. Rhaid i chi, bobl Israel, benderfynu beth sydd i'w wneud!”

8. A dyma nhw'n cytuno'n unfrydol, “Does neb ohonon ni am fynd adre – neb o gwbl –

9. nes byddwn ni wedi delio gyda phobl Gibea. Rhaid i ni ymosod ar y dre. Gwnawn ni dynnu coelbren i benderfynu pa lwyth sydd i arwain yr ymosodiad.

10. Bydd degfed ran o ddynion pob llwyth yn gyfrifol am nôl bwyd i'r milwyr. Pan fydd y fyddin yn cyrraedd Gibea byddan nhw'n eu cosbi nhw am wneud peth mor erchyll yn Israel.”

Barnwyr 20