21. Felly dyma fe'n mynd â nhw i'w dŷ, ac yn bwydo'r asynnod. Wedyn ar ôl golchi eu traed dyma nhw'n cael pryd o fwyd gyda'i gilydd.
22. Tra roedden nhw'n mwynhau eu hunain, dyma griw o rapsgaliwns o'r dref yn codi twrw, amgylchynu'r tŷ a dechrau curo ar y drws. Roedden nhw'n gweiddi ar yr hen ddyn, “Anfon y dyn sy'n aros gyda ti allan. Dŷn ni eisiau cael rhyw gydag e!”
23. Ond dyma'r dyn oedd piau'r tŷ yn mynd allan atyn nhw, a dweud, “Na, ffrindiau. Peidiwch bod mor ffiaidd! Fy ngwestai i ydy'r dyn. Dych chi'n warthus!
24. Mae gen i ferch sy'n wyryf, ac mae partner y dyn yma. Gwna i eu hanfon nhw allan. Gewch chi wneud beth leiciwch chi iddyn nhw. Ond peidiwch meddwl gwneud rhywbeth mor warthus i'r dyn yma!”
25. Ond roedd y dynion yn gwrthod gwrando arno. Felly dyma'r dyn o lwyth Lefi yn gafael yn ei bartner ac yn ei gwthio hi allan atyn nhw. A buon nhw'n ei threisio hi a'i cham-drin hi drwy'r nos. Roedd hi bron yn gwawrio cyn iddyn nhw ei gollwng hi'n rhydd.
26. Roedd hi'n dechrau goleuo pan gyrhaeddodd hi'r tŷ lle roedd ei gŵr yn aros. Syrthiodd ar lawr wrth y drws, a dyna lle buodd hi'n gorwedd nes oedd yr haul wedi codi.
27. Pan gododd y gŵr y bore hwnnw, gan fwriadu cychwyn ar ei daith, agorodd y drws, a dyna lle roedd ei bartner. Roedd hi'n gorwedd wrth ddrws y tŷ, a'i dwylo ar y trothwy.
28. “Tyrd, dŷn ni'n mynd,” meddai wrthi. Ond doedd dim ymateb. Felly dyma fe'n ei chodi ar ei asyn a mynd.
29. Pan gyrhaeddodd adre, cymerodd gorff ei bartner a'i dorri'n un deg dau darn gyda chyllell. Yna dyma fe'n anfon y darnau, bob yn un, i bob rhan o Israel.
30. Roedd pawb yn dweud, “Does yna ddim byd fel yma wedi digwydd erioed o'r blaen, ers i bobl Israel ddod allan o wlad yr Aifft! Meddyliwch am y peth! A trafodwch beth ddylid ei wneud.”