23. Dyma nhw'n gweiddi arnyn nhw. A dyma ddynion Dan yn troi a gofyn, “Beth sy'n bod? Pam dych chi wedi dod ar ein holau ni?”
24. Dyma Micha'n ateb, “Dych chi wedi dwyn y duwiau dw i wedi eu gwneud, a'r offeiriad, a cherdded i ffwrdd! Beth sydd gen i ar ôl? Sut allwch chi ddweud, ‘Beth sy'n bod?’”
25. Ac medden nhw wrtho, “Well i ti gau dy geg – mae yna ddynion milain yma, a byddan nhw'n dod ac yn dy ladd di a dy deulu!”
26. Yna dyma nhw'n troi a mynd yn eu blaenau ar eu taith.Pan sylweddolodd Micha eu bod nhw'n gryfach na'r criw o ddynion oedd gyda fe, dyma fe'n troi am adre.
27. Aeth pobl llwyth Dan yn eu blaenau i Laish, gyda'r offeiriad a'r delwau roedd Micha wedi eu gwneud. Dyna lle roedd pobl Laish, yn gweld dim peryg o gwbl ac yn meddwl eu bod yn hollol saff. A dyma milwyr Dan yn ymosod arnyn nhw, ac yn llosgi'r dref yn ulw.
28. Doedd neb yn gallu dod i'w helpu nhw. Roedden nhw'n rhy bell o Sidon i'r gorllewin, a doedd ganddyn nhw ddim cysylltiad hefo unrhyw un arall. Roedd y dref mewn dyffryn oedd ddim yn bell o Beth-rechof.Dyma lwyth Dan yn ailadeiladu'r dref, a symud i fyw yno.
29. Cafodd y dref ei galw yn Dan, ar ôl eu hynafiad, oedd yn un o feibion Israel. Laish oedd yr hen enw arni.
30. Dyma bobl Dan yn gosod yr eilun wedi ei gerfio i fyny i'w addoli, ac yn gwneud Jonathan (oedd yn un o ddisgynyddion Gershom, mab Moses) yn offeiriad. Roedd ei deulu e yn dal i wasanaethu fel offeiriaid i lwyth Dan adeg y gaethglud!