Barnwyr 17:7-13 beibl.net 2015 (BNET)

7. Roedd dyn ifanc o Bethlehem yn Jwda (roedd yn perthyn i lwyth Lefi, ond wedi bod yn byw dros dro ar dir Jwda).

8. Penderfynodd fynd i chwilio am le arall i fyw. Cyrhaeddodd fryniau Effraim, a digwydd dod i dŷ Micha.

9. Gofynnodd Micha iddo, “O ble ti'n dod?”Atebodd, “Un o lwyth Lefi ydw i, wedi bod yn byw yn Bethlehem yn Jwda. Ond dw i'n edrych am rywle arall i fyw.”

10. A dyma Micha'n dweud, “Aros yma gyda mi. Cei fod yn gynghorydd ac offeiriad i mi. Gwna i dalu deg darn arian y flwyddyn i ti, a dillad a bwyd.”

11. Dyma fe'n cytuno i aros yno. Roedd fel un o'r teulu.

12. Roedd Micha wedi ei ordeinio yn offeiriad, ac roedd yn byw yn ei dŷ.

13. Ac meddai Micha wrtho'i hun, “Nawr dw i'n gwybod y bydd Duw yn dda i mi – mae gen i un o lwyth Lefi yn offeiriad!”

Barnwyr 17