Barnwyr 17:6-11 beibl.net 2015 (BNET)

6. Doedd dim brenin yn Israel bryd hynny. Roedd pawb yn gwneud beth roedden nhw'n feddwl oedd yn iawn.

7. Roedd dyn ifanc o Bethlehem yn Jwda (roedd yn perthyn i lwyth Lefi, ond wedi bod yn byw dros dro ar dir Jwda).

8. Penderfynodd fynd i chwilio am le arall i fyw. Cyrhaeddodd fryniau Effraim, a digwydd dod i dŷ Micha.

9. Gofynnodd Micha iddo, “O ble ti'n dod?”Atebodd, “Un o lwyth Lefi ydw i, wedi bod yn byw yn Bethlehem yn Jwda. Ond dw i'n edrych am rywle arall i fyw.”

10. A dyma Micha'n dweud, “Aros yma gyda mi. Cei fod yn gynghorydd ac offeiriad i mi. Gwna i dalu deg darn arian y flwyddyn i ti, a dillad a bwyd.”

11. Dyma fe'n cytuno i aros yno. Roedd fel un o'r teulu.

Barnwyr 17