7. A dyma Samson yn ateb, “Petawn i'n cael fy rhwymo gyda saith llinyn bwa saeth newydd, byddwn i mor wan ac unrhyw ddyn arall.”
8. Felly dyma arweinwyr y Philistiaid yn rhoi saith llinyn bwa saeth newydd iddi i rwymo Samson gyda nhw.
9. Pan oedd y dynion yn cuddio yn yr ystafell, dyma Delila yn gweiddi, “Mae'r Philistiaid yma, Samson!” Dyma fe'n torri'r llinynnau bwa fel petaen nhw'n edau oedd wedi bod yn agos i dân. Doedden nhw ddim wedi darganfod y gyfrinach pam oedd e mor gryf.
10. Dyma Delila'n dweud wrth Samson, “Ti'n chwarae triciau ac wedi dweud celwydd wrtho i! Tyrd, dywed wrtho i sut mae rhywun yn gallu dy rwymo di.”
11. A dyma fe'n dweud wrthi, “Petawn i'n cael fy rhwymo gyda rhaffau newydd sbon sydd erioed wedi cael eu defnyddio o'r blaen, byddwn i mor wan ac unrhyw ddyn arall.”
12. Felly dyma Delila yn rhwymo Samson gyda rhaffau newydd sbon. Yna dyma hi'n gweiddi, “Mae'r Philistiaid yma, Samson!” (Roedd y Philistiaid yn cuddio yn yr ystafell.) Ond dyma fe'n torri'r rhaffau fel petaen nhw'n ddim ond edau!
13. Dyma Delila'n dweud wrth Samson, “Ti'n gwneud dim byd ond chwarae triciau a dweud celwydd wrtho i! Dywed wrtho i sut mae rhywun yn gallu dy rwymo di.”A dyma fe'n dweud wrthi, “Taset ti'n gweu fy ngwallt i – y saith plethen – i mewn i'r brethyn ar ffrâm wau, a'i gloi gyda'r pin, byddwn i mor wan ac unrhyw ddyn arall.”
14. Felly tra roedd e'n cysgu, dyma hi'n cymryd ei saith plethen e, a'u gweu nhw i mewn i'r brethyn ar y ffrâm wau, a'i gloi gyda pin. Wedyn gweiddi, “Mae'r Philistiaid yma, Samson!”Dyma fe'n deffro, ac yn rhwygo'r pin allan o'r ffrâm a'i wallt o'r brethyn.