4. Rywbryd wedyn, dyma Samson yn syrthio mewn cariad hefo gwraig o Ddyffryn Sorec, o'r enw Delila.
5. Dyma arweinwyr y Philistiaid yn mynd ati, a dweud, “Os gwnei di ei berswadio fe i ddweud wrthot ti pam mae e mor gryf, a sut y gallen ni ei ddal a'i gam-drin, cei di fil a chant o ddarnau arian gan bob un ohonon ni.”
6. Felly dyma Delila yn gofyn i Samson, “Beth sy'n dy wneud di mor gryf? Sut allai rhywun dy rwymo di a dy drechu di?”
7. A dyma Samson yn ateb, “Petawn i'n cael fy rhwymo gyda saith llinyn bwa saeth newydd, byddwn i mor wan ac unrhyw ddyn arall.”