19. Dyma Delila'n cael Samson i gysgu, a'i ben ar ei gliniau. Yna dyma hi'n galw dyn draw i dorri ei wallt i gyd i ffwrdd – y saith plethen. A dyna ddechrau'r cam-drin. Roedd ei gryfder i gyd wedi mynd.
20. Dyma hi'n gweiddi, “Mae'r Philistiaid yma, Samson!” A dyma fe'n deffro, gan feddwl, “Gwna i yr un peth ag o'r blaen, a chael fy hun yn rhydd.” (Doedd e ddim yn sylweddoli fod yr ARGLWYDD wedi ei adael e.)
21. Dyma'r Philistiaid yn ei ddal a thynnu ei lygaid allan. Yna dyma nhw'n mynd ag e i'r carchar yn Gasa. Yno dyma nhw'n rhoi cadwyni pres arno a gwneud iddo falu ŷd.
22. Ond cyn hir roedd ei wallt yn dechrau tyfu eto.
23. Roedd arweinwyr y Philistiaid wedi dod at ei gilydd i ddathlu, a chyflwyno aberthau i'w duw, Dagon. Roedden nhw'n siantio,“Ein duw ni, Dagon –mae wedi rhoi Samsonein gelyn, yn ein gafael!”
24. Roedd y bobl i gyd yn edrych ar eu duw ac yn ei foli. “Mae'n duw ni wedi rhoi ein gelyn yn ein gafael. Roedd e wedi dinistrio'n gwlad, a lladd cymaint ohonon ni.”
25. Pan oedd y parti'n dechrau mynd yn wyllt dyma nhw'n gweiddi, “Dewch â Samson yma i ni gael ychydig o adloniant!”Felly dyma nhw'n galw am Samson o'r carchar, i roi sioe iddyn nhw. A dyma nhw'n ei osod i sefyll rhwng dau o'r pileri.
26. Dyma Samson yn dweud wrth y bachgen oedd yn ei dywys, “Gad i mi deimlo pileri'r deml, i mi gael pwyso arnyn nhw.”
27. Roedd y deml yn orlawn o bobl, ac roedd arweinwyr y Philistiaid i gyd yno. Roedd tair mil o bobl ar y to yn gwylio Samson ac yn gwneud hwyl ar ei ben.
28. A dyma Samson yn gweddïo ar yr ARGLWYDD. “O Feistr, ARGLWYDD, cofia amdana i! Gwna fi'n gryf dim ond un waith eto, O Dduw. Gad i mi daro'r Philistiaid un tro olaf, a dial arnyn nhw am dynnu fy llygaid i!”