1. Aeth Samson i Gasa. Gwelodd butain yno, ac aeth i gael rhyw gyda hi.
2. Dyma bobl Gasa yn darganfod ei fod yno. Felly dyma nhw'n amgylchynu'r dref ac yn disgwyl amdano wrth y giatiau.Wnaethon nhw ddim mwy drwy'r nos, gan feddwl, “Lladdwn ni e pan fydd hi'n goleuo yn y bore!”
3. Ond wnaeth Samson ddim aros drwy'r nos. Cododd ganol nos a gadael. Pan ddaeth at giatiau'r dref, tynnodd nhw o'r ddaear – y pyst a'r barrau a'r cwbl. Cododd nhw ar ei gefn, a'i cario nhw i ben y bryn sydd i'r dwyrain o Hebron.
4. Rywbryd wedyn, dyma Samson yn syrthio mewn cariad hefo gwraig o Ddyffryn Sorec, o'r enw Delila.
5. Dyma arweinwyr y Philistiaid yn mynd ati, a dweud, “Os gwnei di ei berswadio fe i ddweud wrthot ti pam mae e mor gryf, a sut y gallen ni ei ddal a'i gam-drin, cei di fil a chant o ddarnau arian gan bob un ohonon ni.”