6. A dyma hi'n mynd i ddweud wrth ei gŵr beth oedd wedi digwydd. “Mae dyn wedi dod ata i oddi wrth Dduw. Roedd fel angel Duw – yn ddigon i godi braw arna i! Wnes i ddim gofyn iddo o ble roedd e'n dod, a wnaeth e ddim dweud ei enw.
7. Dwedodd wrtho i, ‘Rwyt ti'n mynd i fod yn feichiog a byddi'n cael mab. Felly, paid yfed gwin nag unrhyw ddiod feddwol arall, a paid bwyta unrhyw beth fydd yn dy wneud di'n aflan. Bydd y plentyn wedi ei gysegru yn Nasaread i Dduw o'i eni i'w farw.’”
8. Yna dyma Manoa'n gweddïo ar yr ARGLWYDD, “Meistr, plîs gad i'r dyn wnest ti ei anfon ddod aton ni eto, iddo ddysgu i ni beth i'w wneud gyda'r bachgen fydd yn cael ei eni.”
9. A dyma Duw yn ateb ei weddi. Dyma'r angel yn dod at wraig Manoa eto. Roedd hi'n eistedd yn y cae ar ei phen ei hun – doedd Manoa ei gŵr ddim gyda hi.
10. A dyma hi'n rhedeg ar unwaith i ddweud wrtho, “Tyrd, mae e wedi dod yn ôl! Y dyn ddaeth ata i y diwrnod o'r blaen. Mae e yma!”
11. Dyma Manoa yn mynd yn ôl gyda'i wraig, a dyma fe'n gofyn i'r dyn, “Ai ti ydy'r dyn sydd wedi bod yn siarad gyda'm gwraig i?”“Ie, fi ydy e” meddai wrtho.
12. A dyma Manoa'n gofyn iddo, “Pan fydd dy eiriau'n dod yn wir, sut ddylen ni fagu'r plentyn a beth fydd e'n wneud?”
13. A dyma'r angel yn dweud wrtho, “Rhaid i dy wraig wneud popeth ddywedais i wrthi.
14. Rhaid iddi beidio bwyta grawnwin na rhesins, peidio yfed gwin na diod feddwol arall, a pheidio bwyta unrhyw fwyd fydd yn ei gwneud hi'n aflan. Rhaid iddi wneud popeth dw i wedi ei ddweud wrthi.”
15. Yna dyma Manoa yn dweud, “Plîs wnei di aros am ychydig i ni baratoi pryd o fwyd i ti, gafr ifanc.”
16. “Gwna i aros ond wna i ddim bwyta,” meddai'r angel. “Os wyt ti eisiau cyflwyno offrwm i'w losgi'n llwyr i'r ARGLWYDD, gelli wneud hynny.” (Doedd Manoa ddim yn sylweddoli mai angel yr ARGLWYDD oedd e.)