1. Dyma bobl Israel unwaith eto yn gwneud beth oedd yn ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD. Felly dyma'r ARGLWYDD yn gadael i'r Philistiaid eu rheoli nhw am bedwar deg o flynyddoedd.
2. Bryd hynny roedd dyn o'r enw Manoa, o lwyth Dan, yn byw yn Sora. Doedd gwraig Manoa ddim yn gallu cael plant.
3. Un diwrnod dyma angel yr ARGLWYDD yn rhoi neges iddi, “Er dy fod ti wedi methu cael plant hyd yn hyn, ti'n mynd i feichiogi a byddi'n cael mab.
4. Bydd yn ofalus! Paid yfed gwin nag unrhyw ddiod feddwol arall, na bwyta unrhyw beth fydd yn dy wneud di'n aflan.
5. Wir i ti, rwyt ti'n mynd i feichiogi a cael mab. Ond rhaid i ti beidio torri ei wallt, am fod y plentyn i gael ei gysegru'n Nasaread i'r ARGLWYDD o'r eiliad mae'n cael ei eni. Bydd yn mynd ati i achub Israel o afael y Philistiaid.”
6. A dyma hi'n mynd i ddweud wrth ei gŵr beth oedd wedi digwydd. “Mae dyn wedi dod ata i oddi wrth Dduw. Roedd fel angel Duw – yn ddigon i godi braw arna i! Wnes i ddim gofyn iddo o ble roedd e'n dod, a wnaeth e ddim dweud ei enw.