9. A dyma Jefftha'n dweud, “Iawn. Os gwna i ddod gyda chi, a'r ARGLWYDD yn gadael i mi ennill y frwydr, fi fydd eich pennaeth chi.”
10. Ac meddai'r arweinwyr, “Mae'r ARGLWYDD yn dyst a bydd yn ein barnu ni os na wnawn ni fel ti'n dweud.”
11. Felly dyma Jefftha'n mynd gydag arweinwyr Gilead a dyma fe'n cael ei wneud yn bennaeth ac arweinydd y fyddin. A dyma Jefftha'n ailadrodd telerau'r cytundeb o flaen yr ARGLWYDD yn Mitspa.
12. Yna dyma fe'n anfon negeswyr at frenin yr Ammoniaid i ofyn pam oedd e'n ymosod ar y wlad.
13. Yr ateb roddodd brenin yr Ammoniaid i'r negeswyr oedd, “Am fod pobl Israel wedi dwyn ein tir ni pan ddaethon nhw o'r Aifft – o Afon Arnon yn y de i Afon Jabboc yn y gogledd, ac at yr Iorddonen yn y gorllewin. Rho'r tir yn ôl i mi, a fydd yna ddim rhyfel.”
14. Dyma Jefftha'n anfon y neges yma'n ôl at frenin Ammon,
15. “Wnaeth Israel ddim dwyn y tir oddi ar bobloedd Moab ac Ammon.
16. Pan ddaethon nhw allan o'r Aifft dyma nhw'n teithio drwy'r anialwch at y Môr Coch ac yna ymlaen i Cadesh.
17. Anfonodd Israel negeswyr at frenin Edom, yn gofyn, ‘Wnei di roi caniatâd i ni groesi dy dir di?’ Ond dyma frenin Edom yn gwrthod gadael iddyn nhw. Yna dyma Israel yn gofyn yr un peth i frenin Moab ond doedd yntau ddim yn fodlon gadael iddyn nhw groesi. Felly dyma bobl Israel yn aros yn Cadesh.