4. Dyma lwyth Jwda yn ymosod, a dyma'r ARGLWYDD yn gwneud iddyn nhw drechu'r Canaaneaid a'r Peresiaid. Cafodd deg mil o filwyr y gelyn eu lladd yn Besec.
5. Yn ystod y frwydr dyma nhw'n dod o hyd i Adoni-besec, y brenin.
6. Ceisiodd hwnnw ddianc, ond llwyddon nhw i'w ddal e. A dyma nhw'n torri bodiau ei ddwylo a'i draed i ffwrdd.
7. “Dw i wedi torri bodiau dwylo a thraed saith deg o frenhinoedd,” meddai Adoni-besec. “Roedden nhw i gyd yn gorfod casglu briwsion dan fy mwrdd. A nawr mae Duw wedi talu'n ôl i mi am beth wnes i iddyn nhw.” Aethon nhw ag e i Jerwsalem, lle buodd e farw.
8. Roedd byddin Jwda wedi ymosod ar Jerwsalem, ei dal, lladd ei phobl, a llosgi'r ddinas yn llwyr.
9. Nesaf, dyma byddin Jwda yn mynd i ymosod ar y Canaaneaid oedd yn byw yn y bryniau, y Negef i'r de, a'r iseldir yn y gorllewin.
10. Dyma nhw'n ymosod ar y Canaaneaid oedd yn byw yn Hebron (oedd yn arfer cael ei galw yn Ciriath-arba), a lladd dynion Sheshai, Achiman a Talmai.
11. Wedyn dyma nhw'n ymosod ar y bobl oedd yn byw yn Debir (oedd yn arfer cael ei galw yn Ciriath-seffer).
12. Roedd Caleb wedi dweud, “Bydd pwy bynnag sy'n ymosod ar dref Ciriath-seffer ac yn ei choncro yn cael priodi fy merch Achsa.”