Barnwyr 1:10-19 beibl.net 2015 (BNET)

10. Dyma nhw'n ymosod ar y Canaaneaid oedd yn byw yn Hebron (oedd yn arfer cael ei galw yn Ciriath-arba), a lladd dynion Sheshai, Achiman a Talmai.

11. Wedyn dyma nhw'n ymosod ar y bobl oedd yn byw yn Debir (oedd yn arfer cael ei galw yn Ciriath-seffer).

12. Roedd Caleb wedi dweud, “Bydd pwy bynnag sy'n ymosod ar dref Ciriath-seffer ac yn ei choncro yn cael priodi fy merch Achsa.”

13. Othniel, mab Cenas (brawd iau Caleb) wnaeth goncro'r dref, a rhoddodd Caleb ei ferch, Achsa, yn wraig iddo.

14. Pan briododd hi Othniel, dyma hi'n ei berswadio i adael iddi ofyn i'w thad am fwy o dir. Wrth iddi ddod i lawr oddi ar gefn ei hasyn, gofynnodd ei thad Caleb iddi, “Beth sy'n bod?”

15. A dyma hi'n ateb, “Dw i eisiau gofyn am rodd arall gen ti. Rwyt ti wedi rhoi tir i mi yn y Negef, ond wnei di roi ffynhonnau dŵr i mi hefyd?” A dyma Caleb yn rhoi'r ffynhonnau uchaf a'r ffynhonnau isaf iddi.

16. Aeth disgynyddion y Cenead, tad-yng-nghyfraith Moses, o Jericho gyda phobl Jwda a setlo i lawr i fyw gyda nhw ger Arad yn anialwch Jwda yn y Negef.

17. Yna aeth dynion llwyth Jwda gyda llwyth Simeon i ymladd yn erbyn y Canaaneaid yn Seffath. Dyma nhw'n lladd pawb yno. Felly cafodd y dref ei galw yn Horma (sef Dinistr).

18. Yna dyma lwyth Jwda yn concro Gasa, Ashcelon ac Ecron, a'r tiroedd o'u cwmpas nhw.

19. Roedd yr ARGLWYDD yn helpu Jwda. Dyma nhw'n llwyddo i goncro'r bryniau. Ond roedden nhw'n methu gyrru allan y bobl oedd yn byw ar yr arfordir am fod ganddyn nhw gerbydau rhyfel haearn.

Barnwyr 1