1. Dyma fy Meistr, yr ARGLWYDD, yn dangos hyn i mi: basged yn llawn ffigys aeddfed.
2. A gofynnodd i mi, “Beth wyt ti'n weld, Amos?” Dyma finnau'n ateb, “Basged yn llawn ffigys aeddfed”. A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho i: “Mae'r diwedd wedi dod ar fy mhobl Israel. Dw i ddim yn mynd i faddau iddyn nhw eto.
3. Bydd y merched sy'n canu yn y palas yn udo crïo ar y diwrnod hwnnw”—fy Meistr, yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn—“Bydd cymaint o gyrff marw yn gorwedd ym mhobman! Distawrwydd llethol!”
4. Gwrandwch ar hyn, chi sy'n sathru'r gwan,ac eisiau cael gwared â phobl dlawd yn y wlad.
5. Chi sy'n mwmblan i'ch hunain,“Pryd fydd Gŵyl y lleuad newydd drosodd? –i ni gael gwerthu'n cnydau eto.Pryd fydd y dydd saboth drosodd? –i ni gael gwerthu'r ŷd eto.Gallwn godi pris uchel am fesur prin,a defnyddio clorian sy'n twyllo.
6. Gallwn brynu am arian bobl dlawd sydd mewn dyled,a'r rhai sydd heb ddigon i dalu am bâr o sandalau.Gallwn gymysgu'r gwastraff gyda'r grawn!”
7. Mae'r ARGLWYDD yn tyngu i'w enw ei hun, Balchder Jacob:“Wna i byth anghofio beth maen nhw wedi ei wneud.”
8. Felly bydd y ddaear yn ysgwyd o achos hyna phawb sy'n byw arni yn galaru.Bydd y ddaear gyfan yn codi fel yr Afon Nil;yn chwyddo ac yna'n suddo fel yr Afon yn yr Aifft.
9. “A'r diwrnod hwnnw,”—fy Meistr, yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn—“bydda i'n gwneud i'r haul fachlud ganol dydd,a bydd y wlad yn troi'n dywyll yng ngolau dydd.