5. Dyma fi'n dweud, “O Feistr, ARGLWYDD, paid! Sut all pobl Jacob oroesi? Maen nhw'n rhy wan.”
6. Dyma'r ARGLWYDD yn newid ei feddwl. “Fydd hyn ddim yn digwydd chwaith,” meddai'r ARGLWYDD.
7. Wedyn dyma fe'n dangos hyn i mi: Roedd yn sefyll ar ben wal wedi ei hadeiladu gyda llinyn plwm, ac yn dal llinyn plwm yn ei law.
8. Gofynnodd yr ARGLWYDD i mi, “Beth wyt ti'n weld, Amos?” Dyma finnau'n ateb, “Llinyn plwm”. A dyma fy Meistr yn dweud, “Dw i'n mynd i ddefnyddio llinyn plwm i fesur fy mhobl Israel. Dw i ddim yn mynd i faddau iddyn nhw eto.
9. Bydd allorau paganaidd pobl Isaac yn cael eu chwalu, a chanolfannau addoli pobl Israel yn cael eu dinistrio'n llwyr. Dw i'n mynd i ymosod ar deulu brenhinol Jeroboam hefo cleddyf.”
10. Roedd Amaseia, prif-offeiriad Bethel, wedi anfon y neges yma at Jeroboam, brenin Israel: “Mae Amos yn cynllwynio yn dy erbyn di, a hynny ar dir Israel. All y wlad ddim dioddef dim mwy o'r pethau mae e'n ei ddweud.
11. Achos mae e'n dweud pethau fel yma: ‘Bydd Jeroboam yn cael ei ladd mewn rhyfel, a bydd pobl Israel yn cael eu cymryd i ffwrdd o'u gwlad yn gaethion.’”
12. Roedd Amaseia hefyd wedi dweud wrth Amos, “Gwell i ti fynd o ma, ti a dy weledigaethau! Dianc yn ôl i wlad Jwda! Dos i ennill dy fywoliaeth yno, a phroffwyda yno!
13. Paid byth proffwydo yn Bethel eto, achos dyma lle mae'r brenin yn addoli, yn y cysegr brenhinol.”
14. A dyma Amos yn ateb Amaseia: “Dw i ddim yn broffwyd proffesiynol, nac yn perthyn i urdd o broffwydi. Bridio anifeiliaid a thyfu coed ffigys oeddwn i'n ei wneud.
15. Ond dyma'r ARGLWYDD yn fy nghymryd i ffwrdd o ffermio defaid, ac yn dweud wrtho i, ‘Dos i broffwydo i'm pobl Israel.’
16. Felly, gwrando, dyma neges yr ARGLWYDD. Ti'n dweud wrtho i am stopio proffwydo i bobl Israel a phregethu i bobl Isaac.