1. Dyma fy Meistr, yr ARGLWYDD, yn dangos hyn i mi: Roedd yn creu haid o locustiaid pan oedd y cnwd diweddar yn dechrau tyfu (y cnwd sy'n cael ei blannu ar ôl i'r brenin fedi'r cnwd cyntaf).
2. Roedden nhw'n mynd i ddinistrio'r planhigion i gyd, a dyma fi'n dweud, “O Feistr, ARGLWYDD, plîs maddau! Sut all pobl Jacob oroesi? Maen nhw'n rhy wan.”
3. A dyma'r ARGLWYDD yn newid ei feddwl. “Fydd hyn ddim yn digwydd,” meddai'r ARGLWYDD.
4. Dyma fy Meistr, yr ARGLWYDD, yn dangos hyn i mi: Roedd fy Meistr, yr ARGLWYDD, yn mynd i ddefnyddio tân i gosbi ei bobl. Roedd yn mynd i sychu'r dŵr sydd yn ddwfn dan y ddaear, a llosgi'r caeau i gyd.
5. Dyma fi'n dweud, “O Feistr, ARGLWYDD, paid! Sut all pobl Jacob oroesi? Maen nhw'n rhy wan.”
6. Dyma'r ARGLWYDD yn newid ei feddwl. “Fydd hyn ddim yn digwydd chwaith,” meddai'r ARGLWYDD.
7. Wedyn dyma fe'n dangos hyn i mi: Roedd yn sefyll ar ben wal wedi ei hadeiladu gyda llinyn plwm, ac yn dal llinyn plwm yn ei law.
8. Gofynnodd yr ARGLWYDD i mi, “Beth wyt ti'n weld, Amos?” Dyma finnau'n ateb, “Llinyn plwm”. A dyma fy Meistr yn dweud, “Dw i'n mynd i ddefnyddio llinyn plwm i fesur fy mhobl Israel. Dw i ddim yn mynd i faddau iddyn nhw eto.
9. Bydd allorau paganaidd pobl Isaac yn cael eu chwalu, a chanolfannau addoli pobl Israel yn cael eu dinistrio'n llwyr. Dw i'n mynd i ymosod ar deulu brenhinol Jeroboam hefo cleddyf.”
10. Roedd Amaseia, prif-offeiriad Bethel, wedi anfon y neges yma at Jeroboam, brenin Israel: “Mae Amos yn cynllwynio yn dy erbyn di, a hynny ar dir Israel. All y wlad ddim dioddef dim mwy o'r pethau mae e'n ei ddweud.