Amos 5:10-17 beibl.net 2015 (BNET)

10. Dych chi'n casáu'r un sy'n herio anghyfiawnder yn y llys;ac yn ffieiddio unrhyw un sy'n dweud y gwir.

11. Felly, am i chi drethu pobl dlawd yn drwma dwyn yr ŷd oddi arnyn nhw:Er eich bod chi wedi adeiladu'ch tai crand o gerrig nadd,gewch chi ddim byw ynddyn nhw.Er eich bod chi wedi plannu gwinllannoedd hyfryd,gewch chi byth yfed y gwin ohonyn nhw.

12. Dych chi wedi troseddu yn fy erbyn i mor aml,ac wedi pechu'n ddiddiwedddrwy gam-drin pobl onest,a derbyn breib i wrthod cyfiawnderi bobl dlawd pan maen nhw yn y llys!

13. Byddai unrhyw un call yn cadw'n dawel,achos mae'n amser drwg.

14. Ewch ati i wneud da eto yn lle gwneud drwg,a chewch fyw!Wedyn bydd yr ARGLWYDD, y Duw holl-bwerus,gyda chi go iawn(fel dych chi'n meddwl ei fod e nawr!)

15. Casewch ddrwg a charu'r da, a gwneud yn siŵr fod tegwch yn y llysoedd. Wedyn, falle y bydd yr ARGLWYDD, y Duw holl-bwerus, yn garedig at y llond dwrn o bobl sydd ar ôl yng ngwlad Joseff.

16. Ond o achos yr holl bethau drwg dych chi'n eu gwneud, dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud – fy Meistr i, y Duw holl-bwerus:“Bydd wylo uchel ym mhob sgwâr,a sŵn pobl yn gweiddi ar bob stryd ‘O, na! na!’Bydd y rhai tlawd sy'n gweithio ar y tir yn cael eu galw i alaru,a bydd y galarwyr proffesiynol yno yn nadu'n uchel.

17. Bydd pobl yn wylo'n uchel,hyd yn oed yn y gwinllannoedd,achos dw i'n dod i'ch cosbi chi.”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.

Amos 5