1. Bobl Israel, gwrandwch ar neges yr ARGLWYDD yn eich erbyn chi. Chi, y bobl ddois i â nhw allan o wlad yr Aifft.
2. “O blith holl bobloedd y ddaear,chi ydy'r rhai wnes i ddewis –a dyna pam mae'n rhaid i mi eich galw chi i gyfrifam yr holl ddrwg dych chi wedi ei wneud.”
3. Ydy dau berson yn gallu teithio gyda'i gilyddheb fod wedi trefnu i gyfarfod?
4. Ydy llew yn rhuo yn y goedwigpan does ganddo ddim ysglyfaeth?Ydy llew ifanc yn grwnian yn fodlon yn ei ffauoni bai ei fod wedi dal rhywbeth?
5. Ydy aderyn yn cael ei ddal mewn rhwydos nad oes abwyd yn y trap?Ydy trap ar lawr yn cau yn sydynheb fod rhywbeth wedi ei ddal ynddo?
6. Ydy pobl ddim yn dychryn yn y drewrth glywed y corn hwrddyn seinio fod ymosodiad?Ydy dinistr yn gallu dod ar ddinasheb i'r ARGLWYDD adael i'r peth ddigwydd?
7. Dydy fy Meistr, yr ARGLWYDD, yn gwneud dim bydheb ddangos ei gynllun i'w weision y proffwydi.
8. Pan mae'r llew yn rhuo,pwy sydd ddim yn ofni?Mae fy Meistr, yr ARGLWYDD, wedi siarad,felly pwy sy'n mynd i wrthod proffwydo?
9. Cyhoedda hyn i'r rhai sy'n byw yn y plastai yn Ashdodac yn y plastai yng ngwlad yr Aifft!Dywed: “Dewch at eich gilydd i ben bryniau Samariai weld yr anhrefn llwyr sydd yn y ddinas,a'r gormes sy'n digwydd yno.
10. Allan nhw ddim gwneud beth sy'n iawn!”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.“Yn eu plastai maen nhw'n storio trysorausydd wedi eu dwyn trwy drais.”