Actau 7:52-59 beibl.net 2015 (BNET)

52. Fuodd yna un proffwyd gafodd mo'i erlid gan eich cyndeidiau? Nhw lofruddiodd hyd yn oed y rhai broffwydodd fod yr Un Cyfiawn yn dod – sef y Meseia. A dych chi nawr wedi ei fradychu a'i ladd e!

53. Dych chi wedi gwrthod ufuddhau i Gyfraith Duw, a chithau wedi ei derbyn hi gan angylion!”

54. Roedd yr hyn ddwedodd Steffan wedi gwneud yr arweinwyr Iddewig yn wyllt gandryll. Dyma nhw'n troi'n fygythiol,

55. ond roedd Steffan yn llawn o'r Ysbryd Glân, ac wrth edrych i fyny gwelodd ogoniant Duw a Iesu yn sefyll ar ei ochr dde.

56. “Edrychwch!” meddai, “dw i'n gweld y nefoedd ar agor! Mae Mab y Dyn wedi ei anrhydeddu – mae'n sefyll ar ochr dde Duw.”

57. Dyma nhw'n gwrthod gwrando ar ddim mwy, a chan weiddi nerth eu pennau dyma nhw'n rhuthro ymlaen i ymosod arno.

58. Ar ôl ei lusgo allan o'r ddinas dyma nhw'n dechrau taflu cerrig ato i'w labyddio i farwolaeth. Roedd y rhai oedd wedi tystio yn ei erbyn wedi tynnu eu mentyll, a'u rhoi yng ngofal dyn ifanc o'r enw Saul.

59. Wrth iddyn nhw daflu cerrig ato i'w ladd, roedd Steffan yn gweddïo, “Arglwydd Iesu, derbyn fy ysbryd i.”

Actau 7