Actau 7:5-9 beibl.net 2015 (BNET)

5. Chafodd Abraham ei hun ddim tir yma – dim o gwbl! Ond roedd Duw wedi addo iddo y byddai'r wlad i gyd yn perthyn iddo fe a'i ddisgynyddion ryw ddydd – a hynny pan oedd gan Abraham ddim plentyn hyd yn oed!

6. Dyma ddwedodd Duw: ‘Bydd rhaid i dy ddisgynyddion di fyw fel ffoaduriaid mewn gwlad arall. Byddan nhw'n gaethweision yno, ac yn cael eu cam-drin am bedwar can mlynedd.

7. Ond bydda i'n cosbi'r genedl fydd wedi eu cam-drin nhw’ meddai Duw, ‘a chân nhw adael y wlad honno a dod i'm haddoli i yn y fan yma.’

8. Dyna pryd wnaeth Duw ddweud wrth Abraham mai defod enwaediad oedd i fod yn arwydd o'r ymrwymiad yma. Felly pan gafodd Abraham fab, sef Isaac, dyma fe'n enwaedu y plentyn yn wyth diwrnod oed. Yna Isaac oedd tad Jacob, a Jacob oedd tad y deuddeg patriarch roddodd eu henwau i ddeuddeg llwyth Israel.

9. “Roedd y dynion hynny (meibion Jacob) yn genfigennus o'u brawd Joseff, dyma nhw'n ei werthu fel caethwas i'r Aifft. Ond roedd Duw gyda Joseff

Actau 7