40. Dyma nhw'n dweud wrth Aaron, ‘Gwna dduwiau i ni i'n harwain ni. Pwy ŵyr beth sydd wedi digwydd i'r Moses hwnnw wnaeth ein harwain ni allan o'r Aifft.’
41. Felly dyma nhw'n gwneud eilun ar ffurf llo, aberthu iddo a chynnal parti i anrhydeddu rhywbeth roedden nhw wedi ei lunio â'i dwylo eu hunain!
42. Trodd Duw ei gefn arnyn nhw a gadael iddyn nhw fwrw ymlaen i addoli'r sêr a'r planedau yn yr awyr. Dyma'n union beth sydd wedi ei ysgrifennu yn llyfr y proffwydi: ‘Wnaethoch chi gyflwyno aberthau ac offrymau i mi yn ystod y pedwar deg mlynedd yn yr anialwch, O bobl Israel?
43. Na! Mae'n well gynnoch chi anrhydeddu allor Molech a Reffan, duw'r sêr, a'r eilunod wnaethoch chi i'w haddoli nhw. Felly dw i'n mynd i'ch anfon chi'n gaethion ymhell i ffwrdd i Babilon.’
44. “Roedd ‛pabell y dystiolaeth‛ gyda'n hynafiaid ni yn yr anialwch. Roedd wedi cael ei gwneud yn union yn ôl y patrwm oedd Duw wedi ei ddangos i Moses.
45. Pan oedd Josua yn arwain y bobl i gymryd y tir oddi ar y cenhedloedd gafodd eu bwrw allan o'r wlad yma gan Dduw, dyma nhw'n mynd â'r babell gyda nhw. Ac roedd hi'n dal gyda nhw hyd cyfnod y Brenin Dafydd.
46. “Roedd Dafydd wedi profi ffafr Duw, a gofynnodd am y fraint o gael codi adeilad parhaol i Dduw Jacob.