Actau 7:39-58 beibl.net 2015 (BNET)

39. Ac eto gwrthododd ein hynafiaid wrando arno! Roedden nhw eisiau mynd yn ôl i'r Aifft!

40. Dyma nhw'n dweud wrth Aaron, ‘Gwna dduwiau i ni i'n harwain ni. Pwy ŵyr beth sydd wedi digwydd i'r Moses hwnnw wnaeth ein harwain ni allan o'r Aifft.’

41. Felly dyma nhw'n gwneud eilun ar ffurf llo, aberthu iddo a chynnal parti i anrhydeddu rhywbeth roedden nhw wedi ei lunio â'i dwylo eu hunain!

42. Trodd Duw ei gefn arnyn nhw a gadael iddyn nhw fwrw ymlaen i addoli'r sêr a'r planedau yn yr awyr. Dyma'n union beth sydd wedi ei ysgrifennu yn llyfr y proffwydi: ‘Wnaethoch chi gyflwyno aberthau ac offrymau i mi yn ystod y pedwar deg mlynedd yn yr anialwch, O bobl Israel?

43. Na! Mae'n well gynnoch chi anrhydeddu allor Molech a Reffan, duw'r sêr, a'r eilunod wnaethoch chi i'w haddoli nhw. Felly dw i'n mynd i'ch anfon chi'n gaethion ymhell i ffwrdd i Babilon.’

44. “Roedd ‛pabell y dystiolaeth‛ gyda'n hynafiaid ni yn yr anialwch. Roedd wedi cael ei gwneud yn union yn ôl y patrwm oedd Duw wedi ei ddangos i Moses.

45. Pan oedd Josua yn arwain y bobl i gymryd y tir oddi ar y cenhedloedd gafodd eu bwrw allan o'r wlad yma gan Dduw, dyma nhw'n mynd â'r babell gyda nhw. Ac roedd hi'n dal gyda nhw hyd cyfnod y Brenin Dafydd.

46. “Roedd Dafydd wedi profi ffafr Duw, a gofynnodd am y fraint o gael codi adeilad parhaol i Dduw Jacob.

47. Ond Solomon oedd yr un wnaeth adeiladu'r deml.

48. Ond wedyn, dydy'r Duw Goruchaf ddim yn byw mewn adeiladau wedi eu codi gan ddynion! Yn union fel mae'r proffwyd yn dweud:

49. ‘Y nefoedd ydy fy ngorsedd i, a'r ddaear yn stôl i mi orffwys fy nhraed arni. Allech chi adeiladu teml fel yna i mi? meddai'r Arglwydd. Ble dych chi'n mynd i'w roi i mi i orffwys?

50. Onid fi sydd wedi creu popeth sy'n bodoli?’

51. “Dych chi mor benstiff! Dych chi fel y paganiaid – yn ystyfnig a byddar! Dych chi'n union yr un fath â'ch hynafiaid – byth yn gwrando ar yr Ysbryd Glân!

52. Fuodd yna un proffwyd gafodd mo'i erlid gan eich cyndeidiau? Nhw lofruddiodd hyd yn oed y rhai broffwydodd fod yr Un Cyfiawn yn dod – sef y Meseia. A dych chi nawr wedi ei fradychu a'i ladd e!

53. Dych chi wedi gwrthod ufuddhau i Gyfraith Duw, a chithau wedi ei derbyn hi gan angylion!”

54. Roedd yr hyn ddwedodd Steffan wedi gwneud yr arweinwyr Iddewig yn wyllt gandryll. Dyma nhw'n troi'n fygythiol,

55. ond roedd Steffan yn llawn o'r Ysbryd Glân, ac wrth edrych i fyny gwelodd ogoniant Duw a Iesu yn sefyll ar ei ochr dde.

56. “Edrychwch!” meddai, “dw i'n gweld y nefoedd ar agor! Mae Mab y Dyn wedi ei anrhydeddu – mae'n sefyll ar ochr dde Duw.”

57. Dyma nhw'n gwrthod gwrando ar ddim mwy, a chan weiddi nerth eu pennau dyma nhw'n rhuthro ymlaen i ymosod arno.

58. Ar ôl ei lusgo allan o'r ddinas dyma nhw'n dechrau taflu cerrig ato i'w labyddio i farwolaeth. Roedd y rhai oedd wedi tystio yn ei erbyn wedi tynnu eu mentyll, a'u rhoi yng ngofal dyn ifanc o'r enw Saul.

Actau 7