32. ‘Duw dy gyndeidiau di ydw i, Duw Abraham, Isaac a Jacob.’ Erbyn hyn roedd Moses yn crynu drwyddo gan ofn, a ddim yn meiddio edrych ar yr hyn oedd o'i flaen.
33. Ond dyma'r Arglwydd yn dweud wrtho, ‘Tynna dy sandalau; rwyt ti'n sefyll ar dir cysegredig.
34. Dw i wedi gweld y ffordd mae fy mhobl i'n cael eu cam-drin yn yr Aifft. Dw i wedi eu clywed nhw'n griddfan a dw i'n mynd i'w rhyddhau nhw. Tyrd, felly; dw i'n mynd i dy anfon di yn ôl i'r Aifft.’
35. “Moses oedd yr union ddyn oedden nhw wedi ei wrthod pan wnaethon nhw ddweud, ‘Pwy sydd wedi rhoi'r hawl i ti ein rheoli ni a'n barnu ni?’ Drwy gyfrwng yr angel a welodd yn y berth cafodd ei anfon gan Dduw ei hun i'w harwain nhw a'u hachub nhw!
36. Drwy wneud gwyrthiau rhyfeddol oedd yn dangos fod Duw gydag e, arweiniodd y bobl allan o'r Aifft, drwy'r Môr Coch ac yn yr anialwch am bedwar deg o flynyddoedd.
37. “Moses ddwedodd wrth bobl Israel, ‘Bydd Duw yn codi proffwyd arall fel fi o'ch plith chi.’
38. Roedd yn arwain y bobl pan oedden nhw gyda'i gilydd yn yr anialwch. Gyda Moses y siaradodd yr angel ar Fynydd Sinai. Derbyniodd neges fywiol i'w phasio ymlaen i ni.
39. Ac eto gwrthododd ein hynafiaid wrando arno! Roedden nhw eisiau mynd yn ôl i'r Aifft!
40. Dyma nhw'n dweud wrth Aaron, ‘Gwna dduwiau i ni i'n harwain ni. Pwy ŵyr beth sydd wedi digwydd i'r Moses hwnnw wnaeth ein harwain ni allan o'r Aifft.’
41. Felly dyma nhw'n gwneud eilun ar ffurf llo, aberthu iddo a chynnal parti i anrhydeddu rhywbeth roedden nhw wedi ei lunio â'i dwylo eu hunain!
42. Trodd Duw ei gefn arnyn nhw a gadael iddyn nhw fwrw ymlaen i addoli'r sêr a'r planedau yn yr awyr. Dyma'n union beth sydd wedi ei ysgrifennu yn llyfr y proffwydi: ‘Wnaethoch chi gyflwyno aberthau ac offrymau i mi yn ystod y pedwar deg mlynedd yn yr anialwch, O bobl Israel?