28. Wyt ti am fy lladd i fel gwnest ti ladd yr Eifftiwr yna ddoe?’
29. Clywed hynny wnaeth i Moses ddianc o'r wlad. Aeth i Midian. Er ei fod yn ddieithryn yno, setlodd i lawr a cafodd dau fab eu geni iddo.
30. “Bedwar deg o flynyddoedd yn ddiweddarach, yn yr anialwch wrth ymyl Mynydd Sinai, dyma angel yn ymddangos i Moses yng nghanol fflamau perth oedd ar dân.
31. Doedd ganddo ddim syniad beth oedd yn ei weld. Wrth gamu ymlaen i weld yn agosach, clywodd lais yr Arglwydd yn dweud,
32. ‘Duw dy gyndeidiau di ydw i, Duw Abraham, Isaac a Jacob.’ Erbyn hyn roedd Moses yn crynu drwyddo gan ofn, a ddim yn meiddio edrych ar yr hyn oedd o'i flaen.
33. Ond dyma'r Arglwydd yn dweud wrtho, ‘Tynna dy sandalau; rwyt ti'n sefyll ar dir cysegredig.
34. Dw i wedi gweld y ffordd mae fy mhobl i'n cael eu cam-drin yn yr Aifft. Dw i wedi eu clywed nhw'n griddfan a dw i'n mynd i'w rhyddhau nhw. Tyrd, felly; dw i'n mynd i dy anfon di yn ôl i'r Aifft.’
35. “Moses oedd yr union ddyn oedden nhw wedi ei wrthod pan wnaethon nhw ddweud, ‘Pwy sydd wedi rhoi'r hawl i ti ein rheoli ni a'n barnu ni?’ Drwy gyfrwng yr angel a welodd yn y berth cafodd ei anfon gan Dduw ei hun i'w harwain nhw a'u hachub nhw!
36. Drwy wneud gwyrthiau rhyfeddol oedd yn dangos fod Duw gydag e, arweiniodd y bobl allan o'r Aifft, drwy'r Môr Coch ac yn yr anialwch am bedwar deg o flynyddoedd.