14. Felly dyma Joseff yn cael Jacob a'r teulu cyfan (saith deg pump o bobl i gyd)
15. i fynd i lawr i'r Aifft. Yn yr Aifft y buodd Jacob farw – a'i feibion, ein cyndeidiau ni.
16. Ond cafodd eu cyrff eu cario yn ôl i Sechem a'u claddu yn y tir oedd Abraham wedi ei brynu gan feibion Hamor.
17. “Wrth i'r amser agosáu i Dduw wneud yr hyn oedd wedi ei addo i Abraham, roedd nifer ein pobl ni yn yr Aifft wedi tyfu'n fawr.
18. Erbyn hynny, roedd brenin newydd yn yr Aifft – un oedd yn gwybod dim byd am Joseff.
19. Buodd hwnnw'n gas iawn i'n pobl ni, a'u gorfodi nhw i adael i'w babis newydd eu geni farw.
20. “Dyna pryd cafodd Moses ei eni. Doedd hwn ddim yn blentyn cyffredin! Roedd ei rieni wedi ei fagu o'r golwg yn eu cartref am dri mis.
21. Ond pan gafodd ei adael allan, dyma ferch y Pharo yn dod o hyd iddo, ac yn ei gymryd a'i fagu fel petai'n blentyn iddi hi ei hun.
22. Felly cafodd Moses yr addysg orau yn yr Aifft; roedd yn arweinydd galluog iawn, ac yn llwyddo beth bynnag oedd e'n wneud.
23. “Pan oedd yn bedwar deg mlwydd oed, penderfynodd fynd i ymweld â'i bobl ei hun, sef pobl Israel.
24. Dyna pryd y gwelodd un ohonyn nhw yn cael ei gam-drin gan ryw Eifftiwr. Ymyrrodd Moses i'w amddiffyn a lladd yr Eifftiwr.
25. Roedd yn rhyw obeithio y byddai ei bobl yn dod i weld fod Duw wedi ei anfon i'w hachub nhw, ond wnaethon nhw ddim.
26. Y diwrnod wedyn gwelodd ddau o bobl Israel yn ymladd â'i gilydd. Ymyrrodd eto, a cheisio eu cael i gymodi. ‘Dych chi'n frodyr i'ch gilydd ffrindiau! Pam dych chi'n gwneud hyn?’