1. Dyma'r archoffeiriad yn gofyn iddo, “Ydy'r cyhuddiadau yma'n wir?”
2. A dyma oedd ateb Steffan: “Frodyr, ac arweinwyr parchus, gwrandwch arna i. Roedd y Duw gogoneddus wedi ymddangos i Abraham pan oedd e'n dal i fyw yn Mesopotamia – cyn iddo symud i Haran hyd yn oed.
3. ‘Dw i am i ti adael dy wlad a'th bobl,’ meddai Duw wrtho, ‘a mynd i ble bydda i'n ei ddangos i ti.’
4. “Felly gadawodd wlad y Caldeaid, a setlo i lawr yn Haran. Wedyn, ar ôl i'w dad farw, dyma Duw yn ei arwain ymlaen i'r wlad yma dych chi'n byw ynddi nawr.
5. Chafodd Abraham ei hun ddim tir yma – dim o gwbl! Ond roedd Duw wedi addo iddo y byddai'r wlad i gyd yn perthyn iddo fe a'i ddisgynyddion ryw ddydd – a hynny pan oedd gan Abraham ddim plentyn hyd yn oed!
6. Dyma ddwedodd Duw: ‘Bydd rhaid i dy ddisgynyddion di fyw fel ffoaduriaid mewn gwlad arall. Byddan nhw'n gaethweision yno, ac yn cael eu cam-drin am bedwar can mlynedd.
7. Ond bydda i'n cosbi'r genedl fydd wedi eu cam-drin nhw’ meddai Duw, ‘a chân nhw adael y wlad honno a dod i'm haddoli i yn y fan yma.’
8. Dyna pryd wnaeth Duw ddweud wrth Abraham mai defod enwaediad oedd i fod yn arwydd o'r ymrwymiad yma. Felly pan gafodd Abraham fab, sef Isaac, dyma fe'n enwaedu y plentyn yn wyth diwrnod oed. Yna Isaac oedd tad Jacob, a Jacob oedd tad y deuddeg patriarch roddodd eu henwau i ddeuddeg llwyth Israel.