Actau 3:9-16 beibl.net 2015 (BNET)

9. Roedd pawb yn ei weld yn cerdded ac yn moli Duw,

10. ac yn sylweddoli mai hwn oedd y dyn oedd yn arfer eistedd i gardota wrth ‛Fynedfa Hardd‛ y deml. Roedden nhw wedi eu syfrdanu'n llwyr o achos beth oedd wedi digwydd iddo.

11. Dyna lle roedd y cardotyn a'i freichiau am Pedr ac Ioan, a dyma'r bobl yn tyrru i mewn i Gyntedd Colofnog Solomon lle roedden nhw.

12. Pan welodd Pedr y bobl o'u cwmpas, dwedodd wrthyn nhw: “Pam dych chi'n rhyfeddu at hyn, bobl Israel? Pam syllu arnon ni fel petai gynnon ni'r gallu ynon ni'n hunain i wneud i'r dyn yma gerdded, neu fel tasen ni'n rhyw bobl arbennig o dduwiol?

13. Duw sydd wedi gwneud y peth – Duw Abraham, Isaac a Jacob; Duw ein cyndeidiau ni. Gwnaeth hyn i anrhydeddu ei was Iesu. Yr Iesu wnaethoch chi ei drosglwyddo i'r awdurdodau Rhufeinig i gael ei ladd. Yr un wnaethoch chi ei wrthod pan oedd Peilat yn fodlon ei ryddhau.

14. Gwrthod yr un glân a chyfiawn, a gofyn iddo ryddhau llofrudd yn ei le.

15. Ie, chi laddodd awdur bywyd, ond dyma Duw yn dod ag e yn ôl yn fyw! Dŷn ni'n dystion i'r ffaith!

16. Iesu roddodd y nerth i'r dyn yma o'ch blaen chi gael ei iacháu. Enw Iesu, a'r ffaith ein bod ni'n credu ynddo sydd wedi ei wneud yn iach o flaen eich llygaid chi.

Actau 3