7. Roedd ystâd gyfagos yn perthyn i brif swyddog Rhufain ar yr ynys – dyn o'r enw Pobliws. Rhoddodd groeso mawr i ni, a dyma ni'n aros yn ei gartref am dridiau.
8. Roedd tad Pobliws yn glaf yn ei wely, yn dioddef pyliau o wres uchel a dysentri. Aeth Paul i'w weld, ac ar ôl gweddïo rhoddodd ei ddwylo arno a'i iacháu.
9. Ar ôl i hyn ddigwydd dyma lawer o bobl eraill oedd yn glaf ar yr ynys yn dod ato ac yn cael eu gwella.
10. Cawson ni bob math o anrhegion ganddyn nhw, a phan ddaeth hi'n bryd i ni adael yr ynys dyma nhw'n rhoi popeth oedd ei angen i ni.
11. Aeth tri mis heibio cyn i ni hwylio o'r ynys. Aethon ar long oedd wedi gaeafu yno – llong o Alecsandria gyda delwau o'r ‛Efeilliaid dwyfol‛ (Castor a Polwcs) ar ei thu blaen.
12. Dyma ni'n hwylio i Syracwsa, ac yn aros yno am dridiau.
13. Wedyn dyma ni'n croesi i Rhegium. Ar ôl bod yno am ddiwrnod cododd gwynt o'r de, felly'r diwrnod wedyn llwyddon ni i gyrraedd Potioli.
14. Daethon ni o hyd i grŵp o gredinwyr yno, a chael gwahoddiad i aros gyda nhw am wythnos. Yna, o'r diwedd, dyma ni'n cyrraedd Rhufain.
15. Roedd y Cristnogion yno wedi clywed ein bod ni'n dod, ac roedd rhai wedi teithio i lawr cyn belled â Marchnad Apius i'n cyfarfod ni, ac eraill at y Tair Tafarn. Roedd gweld y bobl yma'n galondid mawr i Paul, a diolchodd i Dduw am fod mor ffyddlon.