11. Ond yn lle gwrando ar Paul, dyma Jwlius yn dilyn cyngor y peilot a chapten y llong.
12. Roedd yr Hafan Deg yn borthladd agored, a ddim yn addas iawn i aros yno dros y gaeaf. Felly dyma'r mwyafrif yn penderfynu mai ceisio hwylio yn ein blaenau oedd orau. Y gobaith oedd cyrraedd lle o'r enw Phenics ar ben gorllewinol yr ynys, ac aros yno dros y gaeaf. Roedd porthladd Phenics yn wynebu'r de-orllewin a'r gogledd-orllewin.
13. Pan ddechreuodd awel ysgafn chwythu o gyfeiriad y de, roedden nhw'n meddwl y byddai popeth yn iawn; felly dyma godi angor a dechrau hwylio ar hyd arfordir Creta.
14. Ond yn sydyn dyma gorwynt cryf (sef yr Ewraculon) yn chwythu i lawr dros yr ynys o'r gogledd-ddwyrain.
15. Cafodd y llong ei dal yn y storm. Roedd hi'n amhosib hwylio yn erbyn y gwynt, felly dyma roi i fyny a cawson ni ein cario i ffwrdd ganddo.
16. Bu bron i ni golli cwch glanio'r llong pan oedden ni'n pasio heibio ynys fach Cawda.
17. Ar ôl i'r dynion lwyddo i'w chodi ar fwrdd y llong, dyma nhw'n rhoi rhaffau o dan gorff y llong rhag iddi ddryllio ar farrau tywod Syrtis. Wedyn dyma nhw'n gollwng yr angor môr ac yn gadael i'r llong gael ei gyrru gan y gwynt.
18. Roedd y llong wedi ei churo cymaint gan y storm nes iddyn nhw orfod dechrau taflu'r cargo i'r môr y diwrnod wedyn.