13. Ychydig ddyddiau wedyn daeth y Brenin Herod Agripa i Cesarea gyda'i chwaer Bernice, i ddymuno'n dda i Ffestus ar ei apwyntiad yn Llywodraethwr.
14. Buon nhw yno am rai dyddiau, a buodd Ffestus yn trafod achos Paul gyda'r brenin. “Mae yma ddyn sydd wedi ei adael gan Ffelics yn garcharor,” meddai.
15. “Y prif offeiriaid a'r arweinwyr Iddewig eraill ddwedodd wrtho i amdano pan o'n i yn Jerwsalem, a gofyn i mi ei ddedfrydu.
16. “Esboniais bod cyfraith Rhufain ddim yn dedfrydu unrhyw un heb achos teg, a chyfle i'r person sy'n cael ei gyhuddo amddiffyn ei hun.
17. Felly pan ddaethon nhw yma dyma fi'n trefnu i'r llys eistedd y diwrnod wedyn, a gwrando'r achos yn erbyn y dyn.
18. Pan gododd yr erlyniad i gyflwyno'r achos yn ei erbyn, wnaethon nhw mo'i gyhuddo o unrhyw drosedd roeddwn i'n ei disgwyl.
19. Yn lle hynny roedd y ddadl i gyd am ryw fanion yn eu crefydd nhw, ac am ryw ddyn o'r enw Iesu oedd wedi marw – ond roedd Paul yn mynnu ei fod yn fyw.
20. Doedd gen i ddim syniad sut i farnu ar faterion o'r fath; felly gofynnais iddo a fyddai'n barod i fynd i Jerwsalem i sefyll ei brawf yno.
21. Ond dyma Paul yn gwneud apêl i'r achos gael ei ohirio a'i drosglwyddo i uchel-lys o flaen ei fawrhydi yr Ymerawdwr. Felly dw i wedi gorchymyn iddo gael ei gadw yn y ddalfa nes daw cyfle i'w anfon at Cesar.”
22. Dyma Agripa'n dweud wrth Ffestus, “Baswn i'n hoffi clywed y dyn yma fy hun.”A dyma Ffestus yn ateb, “Iawn! Cei di ei glywed fory!”
23. Felly, y diwrnod wedyn dyma'r Brenin Herod Agripa a Bernice yn cyrraedd y neuadd lle roedd y gwrandawiad i'w gynnal. Roedd yn achlysur crand iawn, gyda penaethiaid y fyddin a phobl bwysig y ddinas i gyd yno. Dyma Ffestus yn gorchymyn dod â Paul i mewn.
24. Yna meddai Ffestus, “Y Brenin Agripa, a phawb arall sydd yma heddiw. Mae'r Iddewon yma ac yn Jerwsalem wedi gwneud cais am y dyn yma – maen nhw wedi gwneud twrw ofnadwy fod rhaid iddo farw.