Actau 24:14-26 beibl.net 2015 (BNET)

14. Ond, dw i yn cyfaddef i chi mod i'n addoli Duw ein cyndeidiau ni fel un o ddilynwyr yr hyn maen nhw'n ei alw'n sect, sef y Ffordd Gristnogol. Dw i'n credu popeth sydd yn y Gyfraith Iddewig ac yn ysgrifau'r Proffwydi.

15. Dw i'n credu bod Duw yn mynd i ddod â phobl sy'n gyfiawn yn ei olwg a phobl ddrwg yn ôl yn fyw. Mae'r dynion eraill yma'n credu'r un peth!

16. Felly dw i'n gwneud fy ngorau i gadw cydwybod glir mewn perthynas â Duw ac yn y ffordd dw i'n trin pobl eraill.

17. “Ar ôl bod i ffwrdd ers rhai blynyddoedd, des i Jerwsalem gydag arian i helpu'r tlodion ac i gyflwyno offrwm i Dduw.

18. Dyna roeddwn i'n ei wneud yn y deml – roeddwn i newydd fod trwy'r ddefod o buredigaeth. Doedd dim tyrfa gyda mi, a doeddwn i ddim yn creu twrw o fath yn y byd.

19. Ond roedd yno Iddewon o dalaith Asia, a nhw ddylai fod yma i ddwyn cyhuddiad yn fy erbyn, os oes ganddyn nhw unrhyw reswm i wneud hynny!

20. Neu gadewch i'r dynion yma ddweud yn glir pa drosedd mae'r Sanhedrin wedi fy nghael i'n euog ohoni.

21. Ai'r gosodiad yma wnes i pan o'n i'n sefyll o'u blaen nhw ydy'r broblem: ‘Dw i ar brawf o'ch blaen chi am gredu fod y meirw'n mynd i ddod yn ôl yn fyw’?”

22. Roedd Ffelics yn deall beth oedd y Ffordd Gristnogol, a dyma fe'n gohirio'r achos. “Gwna i benderfyniad yn yr achos yma ar ôl i'r capten Lysias ddod yma”

23. Rhoddodd orchymyn fod Paul i gael ei gadw yn y ddalfa, ond ei fod i gael peth rhyddid, a bod ei ffrindiau yn rhydd i ymweld a gofalu am ei anghenion.

24. Ychydig ddyddiau wedyn dyma Ffelics yn anfon am Paul. Roedd ei wraig Drwsila (oedd yn Iddewes) gydag e, a dyma nhw'n rhoi cyfle i Paul ddweud wrthyn nhw am y gred mai Iesu oedd y Meseia.

25. Wrth iddo sôn am fyw yn iawn yng ngolwg Duw, am ddisgyblu'r hunan, a'r ffaith fod Duw yn mynd i farnu, daeth ofn ar Ffelics. “Dyna ddigon am y tro!” meddai, “Cei di fynd nawr. Anfona i amdanat ti eto pan fydd cyfle.”

26. Byddai'n anfon am Paul yn aml iawn i siarad gydag e, ond un rheswm am hynny oedd ei fod yn rhyw obeithio y byddai Paul yn cynnig arian iddo i'w ryddhau.

Actau 24