Actau 20:12-23 beibl.net 2015 (BNET)

12. Dyma nhw'n mynd â'r dyn ifanc adre'n fyw, ac roedd pawb wedi eu calonogi'n fawr.

13. Dyma Paul yn penderfynu croesi ar draws gwlad i Assos. Roedd am i'r gweddill ohonon ni hwylio yno ar long, a byddai'n ein cyfarfod ni yno.

14. Yn Assos ymunodd â ni ar y llong a dyma ni'n hwylio ymlaen i Mitylene.

15. Y diwrnod wedyn dyma ni'n cyrraedd gyferbyn ag ynys Cios. Croesi i Samos y diwrnod canlynol. Ac yna'r diwrnod ar ôl hynny dyma ni'n glanio yn Miletus.

16. Roedd Paul wedi penderfynu peidio galw yn Effesus y tro yma, rhag iddo golli gormod o amser yn nhalaith Asia. Roedd ar frys, ac yn awyddus i gyrraedd Jerwsalem erbyn Gŵyl y Pentecost.

17. Ond tra roedd yn Miletus, anfonodd neges i Effesus yn galw arweinwyr yr eglwys i ddod draw i Miletus i'w gyfarfod.

18. Pan gyrhaeddon nhw, dyma oedd ganddo i'w ddweud wrthyn nhw: “Dych chi'n gwybod yn iawn sut fues i'n gweithio i'r Arglwydd heb dynnu sylw ata i fy hun pan oeddwn i gyda chi yn nhalaith Asia.

19. Dych chi'n gwybod am y dagrau gollais i, ac mor anodd roedd hi'n gallu bod am fod yr Iddewon yn cynllwynio yn fy erbyn i.

20. Dych chi'n gwybod mod i wedi cyhoeddi beth oedd o les i chi, a mynd o gwmpas yn gwbl agored o un tŷ i'r llall yn eich dysgu chi.

21. Dw i wedi dweud yn glir wrth yr Iddewon a phawb arall fod rhaid iddyn nhw droi o'u pechod at Dduw, a chredu yn yr Arglwydd Iesu.

22. “A nawr dw i'n mynd i Jerwsalem. Mae'r Ysbryd wedi dweud fod rhaid i mi fynd, er nad ydw i'n gwybod beth fydd yn digwydd i mi ar ôl i mi gyrraedd yno.

23. Yr unig beth dw i'n wybod ydy mod i'n mynd i gael fy arestio a bod pethau'n mynd i fod yn galed – mae'r Ysbryd Glân wedi gwneud hynny'n ddigon clir dro ar ôl tro mewn gwahanol leoedd.

Actau 20