Actau 19:13 beibl.net 2015 (BNET)

Roedd grŵp o Iddewon hefyd yn mynd o gwmpas yn bwrw ysbrydion drwg allan o bobl, a dyma nhw'n ceisio defnyddio enw'r Arglwydd Iesu i ddelio gyda phobl oedd yng ngafael cythreuliaid. “Yn enw'r Iesu mae Paul yn pregethu amdano, dw i'n gorchymyn i ti ddod allan!” medden nhw.

Actau 19

Actau 19:10-15