Actau 17:19-27 beibl.net 2015 (BNET)

19. Felly dyma nhw'n mynd â Paul i gyfarfod o gyngor yr Areopagus. “Dywed beth ydy'r grefydd newydd yma rwyt ti'n sôn amdani,” medden nhw.

20. “Mae gen ti ryw syniadau sy'n swnio'n od iawn i ni, a dŷn ni eisiau gwybod beth ydy ystyr y cwbl.”

21. (Roedd yr Atheniaid a'r ymwelwyr oedd yn byw yno yn treulio'u hamser hamdden i gyd yn trafod ac yn gwrando pob syniad newydd!)

22. Dyma Paul yn sefyll ar ei draed o flaen cyngor yr Areopagus, a'u hannerch fel hyn: “Bobl Athen! Dw i'n gweld tystiolaeth ym mhobman eich bod chi'n bobl grefyddol iawn.

23. Dw i wedi bod yn cerdded o gwmpas yn edrych yn ofalus ar yr hyn dych chi'n ei addoli. Yng nghanol y cwbl des i o hyd i un allor oedd â'r geiriau yma wedi eu cerfio arni: I'R DUW ANHYSBYS. Dyma'r Duw dw i'n mynd i ddweud wrthoch chi amdano – yr un dych chi'n ei addoli ond ddim yn ei nabod.

24. “Dyma'r Duw wnaeth greu'r byd a phopeth sydd ynddo. Mae'n Arglwydd ar y nefoedd a'r ddaear. Dydy e ddim yn byw mewn temlau sydd wedi eu hadeiladu gan bobl,

25. a dydy pobl ddim yn gallu rhoi unrhyw beth iddo – does dim byd sydd arno'i angen! Y Duw yma sy'n rhoi bywyd ac anadl a phopeth arall i bawb.

26. Fe ydy'r Duw wnaeth greu y dyn cyntaf, a gwneud ohono yr holl genhedloedd gwahanol sy'n byw drwy'r byd i gyd. Mae'n penderfynu am faint fydd y cenhedloedd yna'n bodoli, a lle'n union mae eu ffiniau daearyddol.

27. Gwnaeth hyn i gyd er mwyn iddyn nhw geisio dod o hyd iddo, ac estyn allan a'i gael. A dydy e ddim yn bell oddi wrthon ni mewn gwirionedd.

Actau 17