18. Dechreuodd dadl rhyngddo â grŵp o athronwyr, rhai yn Epicwreaid ac eraill yn Stoiciaid. “Beth mae'r mwydryn yma'n sôn amdano?” meddai rhai ohonyn nhw. “Sôn am ryw dduwiau tramor mae e,” meddai eraill. (Roedden nhw'n dweud hyn am fod Paul yn cyhoeddi'r newyddion da am Iesu a'r atgyfodiad.)
19. Felly dyma nhw'n mynd â Paul i gyfarfod o gyngor yr Areopagus. “Dywed beth ydy'r grefydd newydd yma rwyt ti'n sôn amdani,” medden nhw.
20. “Mae gen ti ryw syniadau sy'n swnio'n od iawn i ni, a dŷn ni eisiau gwybod beth ydy ystyr y cwbl.”
21. (Roedd yr Atheniaid a'r ymwelwyr oedd yn byw yno yn treulio'u hamser hamdden i gyd yn trafod ac yn gwrando pob syniad newydd!)