9. Doedd Duw ddim yn gwahaniaethu rhyngon ni a nhw, am ei fod wedi puro eu calonnau nhw hefyd wrth iddyn nhw gredu.
10. Felly pam dych chi'n amau beth mae Duw wedi ei wneud, drwy fynnu fod y disgyblion yma'n cario beichiau roedden ni a'n hynafiaid yn methu eu cario?
11. Dŷn ni'n credu'n hollol groes! – mai dim ond ffafr a haelioni'r Arglwydd Iesu sy'n ein hachub ni fel hwythau!”
12. Doedd gan neb ddim byd arall i'w ddweud, a dyma nhw'n gwrando ar Barnabas a Paul yn dweud am yr arwyddion gwyrthiol a'r pethau rhyfeddol eraill roedd Duw wedi eu gwneud trwyddyn nhw pan oedden nhw gyda phobl o genhedloedd eraill.
13. Ar ôl iddyn nhw orffen siarad dyma Iago'n dweud: “Gwrandwch, frodyr.
14. Mae Simon wedi disgrifio sut dewisodd Duw bobl iddo'i hun o genhedloedd eraill am y tro cyntaf.
15. Ac mae beth ddwedodd y proffwydi yn cadarnhau hynny, er enghraifft:
16. ‘Bydda i'n dod nôl wedi hyn i ailsefydlu teyrnas Dafydd sydd wedi syrthio. Bydda i'n adeiladu ei adfeilion, a'i adfer,
17. er mwyn i weddill y ddynoliaeth geisio'r Arglwydd, a'r holl wledydd eraill sy'n perthyn i mi.’ Mae'r Arglwydd wedi gwneud y pethau yma
18. yn hysbys ers oesoedd maith.
19. “Felly, yn fy marn i, ddylen ni ddim gwneud pethau'n anodd i'r bobl o genhedloedd eraill sy'n troi at Dduw.
20. Yn lle hynny, gadewch i ni ysgrifennu atyn nhw, a gofyn iddyn nhw beidio bwyta bwyd sydd wedi ei lygru gan eilun-dduwiau, cadw draw oddi wrth anfoesoldeb rhywiol, a pheidio bwyta cig anifeiliaid sydd wedi eu tagu nac unrhyw beth â gwaed ynddo.