30. Atebodd Cornelius: “Bedwar diwrnod yn ôl tua'r adeg yma, sef tri o'r gloch y p'nawn, roeddwn i yn y tŷ yn gweddïo. Yn sydyn roedd dyn yn sefyll o mlaen i a'i ddillad yn disgleirio'n llachar.
31. Dwedodd wrtho i ‘Cornelius, mae Duw wedi clywed dy weddi a derbyn dy roddion i'r tlodion.
32. Anfon rywun i Jopa i nôl dyn o'r enw Simon Pedr. Mae'n aros yng nghartre Simon, gweithiwr lledr sy'n byw ar lan y môr.’
33. Felly dyma fi'n anfon amdanat ti ar unwaith. Dw i'n ddiolchgar i ti am ddod. Felly dŷn ni yma i gyd i wrando ar y cwbl mae'r Arglwydd Dduw am i ti ei ddweud wrthon ni.”
34. Felly dyma Pedr yn dechrau eu hannerch: “Dw i'n deall yn iawn erbyn hyn, y dywediad hwnnw fod Duw ddim yn dangos ffafriaeth!
35. Mae'n derbyn pobl o bob gwlad sy'n ei addoli ac yn gwneud beth sy'n iawn.
36. Anfonodd Duw ei neges at bobl Israel, a dweud y newyddion da fod bywyd llawn i'w gael drwy Iesu y Meseia, sy'n Arglwydd ar bopeth.
37. Dych chi'n gwybod, mae'n siŵr, beth fuodd yn digwydd yn Jwdea. Dechreuodd y cwbl yn Galilea ar ôl i Ioan ddechrau galw pobl i gael eu bedyddio.
38. Roedd Duw wedi eneinio Iesu o Nasareth â'r Ysbryd Glân ac â nerth rhyfeddol. Roedd yn mynd o gwmpas yn gwneud daioni ac yn iacháu pawb oedd yn dioddef am fod y diafol yn eu poeni nhw. Roedd Duw gydag e!
39. Dŷn ni'n llygad-dystion i'r cwbl! Gwelon ni bopeth wnaeth Iesu yn Jerwsalem a gweddill Israel. Cafodd ei ladd drwy gael ei hoelio ar bren ganddyn nhw,
40. ond ddeuddydd yn ddiweddarach dyma Duw yn dod ag e'n ôl yn fyw! Gwelodd pobl e'n fyw!