5. Ond, Timotheus, paid cynhyrfu beth bynnag sy'n digwydd. Paid bod ag ofn dioddef. Dal ati i rannu'r newyddion da gyda phobl, a gwneud y gwaith mae Duw wedi ei roi i ti.
6. Dw i wedi cyrraedd pen y daith. Mae fy mywyd i fel petai wedi ei dywallt ar yr allor fel diodoffrwm. Mae'r amser i mi adael y byd yma wedi dod.
7. Dw i wedi ymladd yn galed, dw i wedi rhedeg y ras i'r pen, a dw i wedi aros yn ffyddlon.
8. Bellach mae'r wobr wedi ei chadw i mi, sef coron y bywyd cyfiawn. Bydd yr Arglwydd, y Barnwr cyfiawn, yn ei chyflwyno hi i mi ar y diwrnod pan ddaw yn ôl – a ddim i mi yn unig, ond i bawb sydd wedi bod yn edrych ymlaen yn frwd iddo ddod yn ôl.
9. Gwna dy orau i ddod yma'n fuan.
10. Mae Demas wedi caru pethau'r byd yma – mae e wedi fy ngadael i a mynd i Thesalonica. Mae Crescens wedi mynd i Galatia, a Titus i Dalmatia.
11. Dim ond Luc sydd ar ôl. Tyrd â Marc gyda ti pan ddoi di. Mae e wedi bod yn help mawr i mi yn y gwaith.
12. Dw i'n anfon Tychicus i Effesus.