2 Timotheus 2:1-3 beibl.net 2015 (BNET)

1. Felly, fy mab, gad i haelioni rhyfeddol y Meseia Iesu dy wneud di'n gryf.

2. Dywed di wrth eraill beth glywaist ti fi'n ei ddweud o flaen llawer o dystion – rhanna'r cwbl gyda phobl y gelli di ddibynnu arnyn nhw i ddysgu eraill.

3. A bydd dithau hefyd yn barod i ddioddef, fel milwr da i Iesu y Meseia.

2 Timotheus 2