5. “Dos i ddweud wrth fy ngwas Dafydd, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: Wyt ti'n meddwl dy fod ti'n mynd i adeiladu teml i mi fyw ynddi?
6. Dw i erioed wedi byw mewn teml, o'r diwrnod pan ddes i â phobl Israel allan o'r Aifft hyd heddiw. Dw i wedi bod yn mynd o le i le mewn pabell, sef tabernacl.
7. Ble bynnag roeddwn i'n teithio gyda phobl Israel, wnes i erioed gwyno i'r rhai wnes i eu penodi i ofalu am lwythau Israel, “Pam dych chi ddim wedi adeiladu teml o goed cedrwydd i mi?”’
8. “Felly, dywed wrth fy ngwas Dafydd, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus yn ei ddweud: “Fi wnaeth dy gymryd di o'r caeau lle roeddet yn bugeilio defaid, a dy wneud di'n arweinydd ar fy mhobl Israel.
9. Dw i wedi bod gyda ti ble bynnag rwyt ti wedi mynd, ac wedi dinistrio dy elynion o dy flaen di. Dw i'n mynd i dy wneud di'n enwog drwy'r byd i gyd.
10. Dw i'n mynd i roi lle i fy mhobl Israel fyw. Byddan nhw'n setlo yno, a fydd neb yn tarfu arnyn nhw. Fydd dynion creulon ddim yn achosi helynt iddyn nhw fel o'r blaen,
11. pan oeddwn i wedi penodi barnwyr i'w harwain nhw. Bellach, dw i wedi rhoi heddwch i ti oddi wrth dy holl elynion.” Mae'r ARGLWYDD yn cyhoeddi: “Fi, yr ARGLWYDD, sy'n mynd i adeiladu tŷ i ti – llinach frenhinol!
12. Ar ôl i ti farw a chael dy gladdu,bydda i'n codi un o dy linach yn dy le – mab i ti.A bydda i'n gwneud ei deyrnas e yn gadarn.
13. Bydd e yn adeiladu teml i'm anrhydeddu i;a bydda i'n gwneud yn siŵr y bydd e'n teyrnasu am byth.
14. Bydda i yn dad iddo, a bydd e'n fab i mi.Pan fydd e'n gwneud drwgbydda i'n defnyddio pobl i'w gosbi.
15. Ond fydda i ddim yn stopio bod yn ffyddlon iddo,yn wahanol i Saul pan wnes i ei symud e o dy ffordd di.
16. Bydd dy deulu di yn teyrnasu o'm blaen i am byth.Bydd dy orsedd yn gadarn fel y graig.”’”
17. Felly dyma Nathan yn mynd a dweud y cwbl wrth Dafydd.
18. A dyma'r Brenin Dafydd yn mynd i mewn i eistedd o flaen yr ARGLWYDD. “Feistr, ARGLWYDD Pwy ydw i? Dw i a'm teulu yn neb. Ac eto ti wedi dod â fi mor bell!
19. Ac fel petai hynny ddim yn ddigon, Feistr, ARGLWYDD, ti wedi siarad am y dyfodol pell yn llinach dy was! Ai dyma'r ffordd wyt ti'n arfer delio gyda phobl, ARGLWYDD?